Neidio i'r prif gynnwy

Tîm newydd arbenigol yn arbed golwg yn Abertawe

AMD1

Mae gan fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dîm amlddisgyblaethol newydd o arbenigwyr llygaid a meddygon sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu triniaeth arbed golwg.

Wedi'i leoli yn Adran Orthoptyddion Ysbyty Singleton, ei brif nod yw trin Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig â Henaint (AMD), sef y rheswm mwyaf cyffredin dros gofrestru golwg yng Nghymru. Gwelir cynnydd yn y niferoedd hyn oherwydd mae'n boblogaeth yn heneiddio.

Gellir rhannu AMD rhwng dirywiad macwlaidd 'gwlyb' a 'sych', gyda'r fersiwn sych yn arwain at golli golwg yn raddol dros amser (does dim triniaeth ar ei gyfer eto), a'r fersiwn wlyb yn arwain at golled weledol yn gyflym os na chaiff ei drin.

Y driniaeth ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb yw chwistrelliad cyffur i'r llygad er mwyn atal gwaedu. Mae angen i'r feddyginiaeth ddrud hon i arbed golwg gael ei rhoi mewn amodau aseptig gan arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi i roi'r pigiad hwn. Er hyn, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a diffyg meddygon yn bresennol, mae Cymru wedi cael trafferth cadw at dargedau a darparu digon o bigiadau i gyrraedd anghenion y boblogaeth.

Gwelwch y tîm newydd.

Dywedodd offthalmolegydd ymgynghorol, Mr Gwyn Williams: “Rydym wedi bod yn brysur yma yn Abertawe yn sefydlu system effeithlon a diogel ar gyfer danfon y pigiadau hyn i bobl â dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint, ac erbyn hyn mae gennym dîm amlddisgyblaethol arbenigol o nyrsys, orthoptwyr, optometryddion, cydgysylltwyr a meddygon i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r driniaeth arbed golwg hon.

“Rydym yn darparu mwy o bigiadau nag erioed ac yn gweithio’n fwy effeithlon gan fod pawb yn gweithio'n galed iawn. Byddai’n gwneud awdur Prudent Healthcare (strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru) yn falch. Caiff mwyafrif y pigiadau eu cyflawni gan nyrsys ac orthoptwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ac yn gweithio law yn llaw â'r ffordd ddiweddaraf o ddarparu triniaeth; trefn o’r enw ‘trin ac estyn’.

“Yn y bôn, mae 'trin ac estyn' yn cael ei darparu trwy roi pigiadau a sicrhau bod digon o amser rhwng apwyntiadau cleifion allanol - yn hytrach na'r system flaenorol o fynychu bob mis - ac atal gwaedu yn y macwla, gan roi'r pigiadau sydd eu hangen ar gleifion mor aml ag sydd eu hangen arnynt a rhoi’r gobaith gorau iddyn nhw am fywyd â golwg.”

Mae'r tîm wedi cysylltu â Specsavers yn Abertawe er mwyn asesu cleifion yn y gymuned gan leihau'r risg o heintiau COVID oherwydd ymweliadau ysbyty a rhyddhau'r gallu ar gyfer trin cleifion gweithredol. Mae cleifion hefyd yn cael eu hasesu a'u hadolygu'n ddiogel trwy ddefnyddio datblygiadau technolegol, sy'n lleihau amseroedd aros cleifion ac yn cynyddu'r gallu i gael pigiadau.

Ac yn y dyfodol agos mae'r tîm yn gobeithio gweithio gyda chydweithwyr optometrydd gofal sylfaenol i gynnal clinigau lle gellir asesu cleifion anweithredol yn ddiogel.

Wrth dalu teyrnged i’r tîm newydd dywedodd Mr Williams: “Rwyf mor falch o’n holl gydweithwyr amlddisgyblaethol sydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gofal o safon mor uchel i boblogaeth heneiddio Abertawe. Mae'n driniaeth trin ac ymestyn yn y datblygiad unigol mwyaf er mwyn arbed golwg ymhlith yr henoed yn ein dinas a byddai wedi bod yn amhosibl gwneud hyn heb gefnogaeth y staff nyrsio ac Orthoptig, yn ogystal â'n rheolwyr rhagorol.

“Byddai wedi bod yn amhosibl darparu’r gwasanaeth trin ac estyn newydd hwn, gwasanaeth sydd bellach yn safon aur ym Mhrydain, heb y tîm amlddisgyblaethol medrus sydd gennym.

“Mae’r fodel o ofal amlddisgyblaethol yn gwneud y mwyaf o brinder meddygon yn GIG Cymru, gyda nyrsys, orthoptwyr ac optometryddion hefyd yn chwarae rolau pwysig wrth ddarparu gofal llygaid diabetig.”

Dywedodd Cheryl Madeira-Cole, rheolwr gwasanaeth clinigol offthalmoleg: “Rwyf wedi bod yn hynod falch o sut mae’r tîm offthalmoleg wedi parhau i ddarparu’r driniaeth hon trwy leihau’r risg o COVID rhwng grŵp o gleifion risg uchel. Dwi’n siwr bydd cleifion wedi sylwi ar newid sylweddol i'n gwasanaeth.

“Amseroedd apwyntiad anghyfnewidiol, ardaloedd aros pellter cymdeithasol a chlinigwyr sy’n gwisgo offer amddiffynnol personol llawn yw’r ffordd newydd o weithio fel bod y cleifion yn teimlo’n ddiogel wrth dderbyn eu triniaeth arbed golwg.”

Uchod: Nyrs staff Herme Zamora gyda chlaf AMD2

Dywedodd Suzanne Martin, Prif Orthoptydd: “Mae’r cyfle hwn wedi cynnig profiad dysgu gwych a boddhad proffesiynol i mi yn enwedig yn ystod COVID pan nes i gydnabod pwysigrwydd y driniaeth ar gyfer clefyd y retina fel rhywbeth y mae’n rhaid iddo barhau trwy gydol y pandemig.

“Rwyf wedi mwynhau trin grŵp claf gwahanol gan fod orthoptwyr yn draddodiadol yn gweld plant. Mae'r cleifion bob amser yn ddiolchgar am y driniaeth sy'n golygu bod y swydd yn rhoi llawer o foddhad. Byddwn yn argymell yn gryf cymryd rhan yn yr agwedd hon o offthalmoleg. ”

Yn ôl yr Orthoptydd, Amy Gillan: “Un o’r rhesymau y dewisais weithio yn Abertawe oedd am y cyfleoedd gwych ar gyfer rolau estynedig sydd ar gael. Fel orthoptydd, rwyf wedi gallu hyfforddi a gweithio fel chwistrellwr mewn-fitreal yn y gwasanaeth AMD. Mae hyn wedi bod yn foddhaus iawn nid yn unig oherwydd fy niddordeb personol fy hun ym maes retina meddygol ond hefyd i weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol cyfeillgar a chefnogol.”

Dywedodd Joyce Pollard: “Mae’r staff yn anhygoel. Mae'r pigiadau yn well, does dim problemau nac ôl-effeithiau negyddol. ”

Dywedodd claf arall, Edward Hardcastle: “Ers dechrau’r pigiadau llygaid ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb rwyf wedi cael gwelliant enfawr yn fy ngolwg yn fy llygad, sydd wedi cael effaith fawr ar fy lles cyffredinol a meddyliol. Byddai colli mwy o olwg yn golygu methu â gyrru, ac felly, colli fy annibyniaeth.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.