Neidio i'r prif gynnwy

Pwyth mewn pryd yn helpu'r rheng flaen

Scrubs 1

Mae byddin o wirfoddolwyr wedi ei chanmol am helpu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Mae gan y grŵp cymwynasgar hwn, sy’n cael ei adnabod fel 'Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – For the Love of Scrubs', yn agos at 2,000 o aelodau yn ei rhengoedd ac mae wedi gwneud dros 27,000 o eitemau, yn amrywio o sgrybs meddygol i orchuddion wyneb ar gyfer staff y GIG yn ystod y pandemig. Mae'r eitemau wedi canfod eu ffordd i'r rheng flaen gan gael eu hanfon i’n hysbytai, ein meddygfeydd, ein cartrefi nyrsio a’n cartrefi gofal.

Mae'r grŵp, sy'n aros mewn cysylltiad drwy ei dudalen benodol ei hun ar Facebook, yn rhoi ymdeimlad o gymuned ac yn cynnig cefnogaeth i'w aelodau. 

Dywedodd sefydlydd y grŵp, Lisa Pařez: “Cafodd y cyfan ei ddechrau gan  Ashleigh Linsdell a grŵp roedd hi wedi ei greu o’r enw ‘For the Love of Scrubs’.  Wrth i’r grŵp dyfu, sylweddolodd pobl y byddai pob un o’r Byrddau Iechyd ledled y DU yn elwa o gael grŵp lleol ac felly fe sefydlwyd un gen i ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  

“Cafodd ei sefydlu ar 1 Ebrill.  Roedd yn eithaf bach i ddechrau ond yna fe ddaliodd ati i dyfu.  Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno am eu bod yn chwilio am rywbeth i’w cadw’n brysur yn ystod y cyfyngiadau.  Roedd yn rhaid i lawer o’r genhedlaeth hŷn eu gwarchod eu hunain ac roedd hyn yn gwneud y byd o wahaniaeth iddyn nhw gan ein bod ni i gyd yn cadw mewn cysylltiad ac yn sgwrsio fel grŵp ar Facebook.

“Mae wedi bod yn ffordd iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â phobl yn y byd tu allan ac wedi rhoi rhywbeth iddyn nhw godi ar ei gyfer yn y bore a’u cadw’n brysur.  Mae’r cyfnod yma wedi cael effaith ar iechyd meddwl cynifer o bobl, felly mae gwnïo a gwau yn wir wedi helpu.     

“Roeddwn i’n meddwl y byddai rhyw 100 ohonon ni’n gwnïo bagiau golchi ac yn helpu i wneud rhai gorchuddion wyneb, ond fe dyfodd y peth – rydyn ni wedi gwneud dros 27,000 o eitemau, yn cynnwys bagiau golchi, capiau sgrybs, bandiau pen a sgrybs. 

“Erbyn hyn mae tua 1,900 o bobl o ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ein grŵp.  O’r rhain, mae tua 400 yn gwnïo, ac mae eraill yn helpu drwy ddosbarthu a chasglu, cyfrannu deunyddiau, rhoi eitemau hanfodol i bobl fregus yn y cymunedau, codi arian a chefnogi. 

“Mae cefndir gyrfa’r bobl yn y grŵp yn amrywio’n fawr, ac mae yno ddynion a menywod o bob oed.  Mae rhai wedi’u hyfforddi’n broffesiynol ac eraill heb gael hyfforddiant.  Mae nifer ohonynt wedi dysgu drwy wylio YouTube neu drwy fod aelodau’r grŵp yn rhoi cymorth ac arweiniad iddynt. 

“Fe wnaethon ni lawer o weithgareddau codi arian a chasglon ni dros £5,000 ar gyfer deunyddiau a nwyddau gwnïo.  Mae pawb wedi rhannu ein tudalen ar JustGiving, ac mae llawer wedi cyfrannu deunyddiau a beth bynnag roedden nhw’n meddwl fyddai o gymorth.   

“Rydyn ni wedi cwblhau dros 2,000 set o sgrybs yn yr ardal i gyd, sy’n cynnwys ysbytai, meddygfeydd, cartrefi nyrsio a chartrefi gofal.

“Rydyn ni’n ei wneud achos ein bod ni’n mwynhau gwnïo, ac rydych chi’n teimlo eich bod yn gwneud rhywbeth i helpu.  Mae gan lawer ohonon ni aelodau o’r teulu neu bobl rydyn ni’n eu hadnabod sy’n gweithio ar y rheng flaen, ac roedden ni eisiau eu cefnogi nhw a dangos ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw ac yn gwerthfawrogi’r cyfan roedden nhw’n ei wneud.”

Scrubs 2

Y grŵp hwn yw’r unig un yng Nghymru i dderbyn deunydd arbennig â phatrwm yr enfys arno, diolch i’r DJ Chris Evans, a’i fab Noah.

Dywedodd Lisa: “Roedd Noah eisiau gwneud rhywbeth i helpu i godi arian ar gyfer gweithwyr y GIG ar y rheng flaen, a chododd dros £120,000 drwy wersylla yn ei ardd gefn.

“Defnyddiwyd peth o’r arian i gynllunio ac i greu’r deunydd arbennig hwn ar gyfer grwpiau fel ein grŵp ni ledled y DU.  Ni yw’r unig grŵp yng Nghymru i dderbyn y deunydd hwn. 

“Mae’r deunydd nawr yn cael ei ddefnyddio i wneud sgrybs a bynting ar gyfer ein hadrannau pediatrig yn Singleton, Treforys a Chastell-nedd Port Talbot.”

 

Gan ddiolch i'r grŵp am ei ymdrechion, dywedodd Mark Parson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol iechyd a diogelwch SCBUHB: "Maen nhw'n grŵp gwych o bobl ac mae'n gwneud synnwyr i ddefnyddio'u gwasanaethau oherwydd mae'r cyfan yn gydgysylltiedig. 

 

"Pan gysylltodd y grŵp â ni ychydig fisoedd yn ôl roeddem yn fwy na pharod. Llwyddasom i gael ffynhonnell o ddeunydd ar eu cyfer a chafodd y cyfan ei gwtogi a'i wneud, a bydd y cynnyrch terfynol mor fuddiol i'n staff. Ni allwn fynegi pa mor ddiolchgar yr ydym am eu gwasanaethau a'r hyn y maent wedi'i wneud i ni.

 

"Byddant yn cael eu defnyddio'n rhagorol, mae staff ar gael a fydd yn fwy na pharod i'w defnyddio."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.