Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Tywysog William yn diolch i staff BIP Bae Abertawe am eu hymateb COVID-19

Llun o amrywiaeth o bethau i wneud gyda

Gwnaeth Dug Caergrawnt alwad ffôn arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yr wythnos hon, i ddiolch i'n holl staff y GIG am eu hymdrechion trwy gydol pandemig Covid-19.

Siaradodd Alison Clarke, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddorau Iechyd â'r Tywysog William Ddydd Mercher yr 17eg o Fawrth.

Fe wnaethant drafod sut roedd staff mewn amrywiaeth eang o rolau wedi neidio i weithredu i weld Abertawe a Castell-nedd Port Talbot trwy'r argyfwng.

Llun o Alison Clarke Dde : Alison Clarke, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dywedodd Alison wrth y Dug, er bod meddygon a nyrsys wedi bod yn trin cleifion Covid positif ar y rheng flaen, roedd nifer o broffesiynau eraill yn ymateb i'r heriau a ddaeth yn sgil y firws yn eu ffyrdd arloesol eu hunain.

Mae therapïau a gwyddorau iechyd yn cwmpasu llawer o wahanol arbenigeddau, gan gynnwys ffisiotherapi, therapi lleferydd ac iaith, cardioffysioleg, gwyddoniaeth fiofeddygol a ffiseg feddygol. Yn ystod y don gyntaf, cymerodd llawer o staff therapi a gwyddor iechyd rolau hollol wahanol, tra bod eraill wedi gweithio'n galed i sicrhau bod eu cleifion yn dal i allu derbyn triniaeth, yn aml trwy ymgynghoriadau rhithwir.

Clywodd y Dug sut y gwnaeth staff awdioleg ailhyfforddi i fod yn weithwyr cymorth gofal iechyd, ac aeth i helpu yn Ysbyty Gorseinon. Efallai nad oedd llawer o staff therapi a gafodd eu hadleoli mewn rolau fel hyn erioed wedi camu eu traed yn broffesiynol  mewn i ward o flaen felly roedd yn gromlin ddysgu fawr iddynt.

Esboniodd Alison sut roedd therapyddion galwedigaethol wedi sefydlu grwpiau ar gyfer teuluoedd mwy agored i niwed, gan ddarparu grwpiau rhithwir 'rhianta mewn pandemig' fel y gallent gael gafael ar gymorth gan y tîm o bell. Mae'r adborth gan gleifion ar gyfer y grwpiau hyn wedi bod mor gadarnhaol nes bod cynlluniau ar waith iddynt barhau ar ôl COVID-19.

Dywedwyd wrth y Dug hefyd sut roedd y tîm ffisiotherapi pediatreg wedi recriwtio dol rag o'r enw Rosie i helpu plant â pharlys yr ymennydd, gohirio datblygiad ac amryw syndromau arall, pan nad oedd sesiynau wyneb yn wyneb yn bosibl rhagor.

Mae'r ffisiotherapyddion yn defnyddio Rosie a'i ffrindiau dol i ddangos i rieni ar sgyrsiau fideo sut i leoli eu plant ar gyfer ymarferion a sut i fesur eu rhai bach ar gyfer eitemau fel sblintiau coesau.

Roedd gan y Tywysog William ddiddordeb mewn clywed sut roedd lles staff wedi cael cefnogaeth hefyd, a sut roedd y timau wedi newid eu ffyrdd o weithio i sicrhau y gallai myfyrwyr therapyddion a gwyddonwyr iechyd ddal i ennill y profiad clinigol yr oedd ei angen arnynt i raddio.

Meddai Alison, “Hoffwn drosglwyddo diolch diffuant y Tywysog William i holl staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i siarad ag ef, ac egluro sut roedd y rhai sy'n gweithio mewn therapïau a gwyddorau iechyd wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb y bwrdd iechyd i Covid-19.

“Roedd yn barchus iawn o’r gwaith roedden ni wedi’i wneud, a sut roedden ni wedi sicrhau y gallai cleifion oedd angen cefnogaeth ein gwasanaethau ddal i dderbyn eu triniaeth.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.