Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan brosiect straeon digidol rywbeth i ysgrifennu adref amdano

Digital Stories Team

Mae tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy’n creu straeon digidol wedi cael diweddglo hapus ar ôl ennill gwobr genedlaethol.

Mae Tîm Straeon Digidol BIPBA (Yn y llun uchod, o'r chwith i'r dde: Marcia Buchanan, Prue Thimbleby, Dalton Amor), sy'n ceisio gwella profiad cleifion trwy rannu arferion da yn ogystal ag amlygu gwersi sydd angen eu dysgu, wedi ennill categori ‘Turning it Around’ yng Ngwobrau Cenedlaethol Rhwydwaith Profiad Cleifion (PENNA) eleni.

Mae gwaith y tîm wedi gwneud gwahaniaeth syfrdanol gan fod rhai sy'n gwneud cwynion yn cael cyfle i wneud stori ddigidol i gleifion fel rhan o ymrwymiad y bwrdd iechyd i wrando ar brofiadau a dysgu ohonynt.

Os mae’r stori yn ymwneud â rhannu arfer gorau, yna mae'r cynllun gweithredu yn dangos sut y gellir datblygu'r gwasanaeth mewn mwy o feysydd.

Mae'r straeon yn cael eu darparu trwy fideo 3 munud o hyd ac yna’n cael eu storio mewn llyfrgell ar-lein. Mae hyn yn rhan o wella gwasanaeth, ac o ganlyniad, mae cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu yn dilyn pob un.

Dywedodd Prue Thimbleby, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd BIPBA: “Roedd 6 phrosiect ar y rhestr fer a gwnaeth pob un ohonynt gyflwyniad 10 munud ac yna ateb cwestiynau.

“Er roeddwn yn hyderus bod gan ein prosiect stori gleifion gyfle i ennill, erbyn inni glywed yr holl gyflwyniadau roedd prosiectau pobl eraill wedi creu cymaint o argraff arnom, nid oeddem yn disgwyl i ennill. Ond yn amlwg roedd y beirniaid yn meddwl ei fod yn enillydd – roedden ni’n ecstatig!”

Ychwanegodd Prue fod y wobr wedi rhoi hwb newydd i'r tîm rannu eu gwaith gyda byrddau iechyd ledled y wlad.

Meddai: “Yn raddol mae’r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru a’r holl Ymddiriedolaethau Iechyd yn Lloegr yn mabwysiadu ein methodoleg ac yn gofyn i ni am hyfforddiant. Mae'r wobr wedi rhoi hwb gwirioneddol inni ac wedi golygu bod angen i ni wneud yn siŵr yn fwy nag erioed ein bod yn gwneud straeon digidol o ansawdd uchel a sicrhau bod y straeon ein yn ein helpu i wella'r hyn rydym yn gwneud yn BIPBA."

Wrth ymateb i’r fuddugoliaeth, dywedodd Cathy Dowling, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion: “Mae’n anrhydedd wirioneddol i ni gael ein cydnabod am y gwaith arloesol hwn ac yn benodol i’r holl staff a chleifion sydd wedi cytuno i fod yn rhan ohono i ddefnyddio eu straeon a phrofiadau i wella gofal i eraill.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol BIPBA, Tracy Myhill: “Mae'n wych gweld y gwaith a wneir gan ein Tîm Straeon Digidol yn cael ei gydnabod yn y modd hwn ac mae'r wobr yn haeddiannol iawn.

“Mae dysgu o brofiadau a gwelliant wrth wraidd datblygu ein sefydliad ac mae'n wych i allu arwain y ffordd o ran deall ac ymateb i brofiad cleifion yn y modd hwn.

“Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Mae PENNA yn sefydliad annibynnol dielw sy'n croesawu pawb sy'n ymwneud â darparu profiad y claf - gydag ymrwymiad i wella'n barhaus, dysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu arfer gorau.

I weld detholiad o straeon, ewch i www.artsinhealth.wales/storytelling

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.