Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth newydd sy'n cefnogi pobl yn eu cartrefi ar ôl cael strôc

Mae Steve Beer yn gwneud paned

I Steve Beer, a gollodd y defnydd o'i goes dde ar ôl cael strôc yn gynharach eleni, mae ei fywyd wedi ei drawsnewid.

Mae'r dyn 70 oed o Bort Talbot bellach yn gallu symud o gwmpas gyda chymorth ffrâm ac yn gallu gwneud paned a brechdan iddo'i hun.  Y gwir yw, mae'n gallu gwneud y rhan fwyaf o bethau drosto'i hun.

Y tîm ffisiotherapi allgymorth Mae'r cyfan wedi'i gyflawni mewn ychydig fisoedd. Ac mae Mr Beer yn credu bod hyn yn sgil y gwasanaeth allgymorth newydd a lansiwyd gan y Tîm Ffisiotherapi yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

“Mae wedi bod yn wych,” meddai. “Oni bai am y gefnogaeth rydw i wedi ei chael, byddwn i nôl yn yr ysbyty, heb os.”

Er nad yw'r gwasanaeth yn gysylltiedig â Covid-19 yn uniongyrchol, mae adleoli ffisiotherapyddion cymunedol a phediatreg oherwydd y feirws wedi gwneud y gwasanaeth yn bosibl.

Chwith: Kevin Reed, Anne Higgs, Gary Sparkes

Dywedodd yr Arweinydd Ffisiotherapi ar gyfer yr ardal, Anne Higgs: “Er bod gennym dîm strôc eithriadol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ceir tystiolaeth glir bod pobl ledled y wlad yn teimlo bod diffyg cefnogaeth pan fyddan nhw'n mynd adref.

“Ers cryn amser, rydyn ni wedi bod yn ceisio mabwysiadu gwasanaeth allgymorth i fynd i’r afael â hyn.

Hefyd, mae’n dda iddyn nhw weld yr un bobl gartref ag y gwnaethon nhw eu gweld ar y ward. Mae angen y parhad yna yn eu gofal.

“Ar ôl i nifer o staff cymunedol a phediatreg gael eu hadleoli i’r ysbyty oherwydd y pandemig, cawson ni'r cyfle i gyflwyno'r gwasanaeth.

“Mae un o’r Technegwyr Ffisiotherapi Pediatreg, Gary Sparkes, yn wirioneddol ddeinamig a rhagweithiol.

“Mae'n gyfarwydd â gweithio yn y gymuned ac mae rhai nodweddion tebyg o ran anghenion niwrolegol cleientiaid pediatrig ac oedolion sydd wedi cael strôc, felly roedd Gary yn ddelfrydol ar gyfer y rôl.”

Gan ddefnyddio cynlluniau triniaeth a luniwyd gan ffisiotherapyddion mewn ysbytai, mae Gary a'i gyd-Dechnegwr Ffisiotherapi, Kevin Reed, yn ymweld â chleifion sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth allgymorth.

Maent yn cefnogi'r cleifion gydag ymarferion, gydag ailddysgu patrymau symud, a chyda'u sgiliau gweithredol, sy'n amrywio o fynd i mewn ac allan o'r gwely i groesi'r ffordd yn ddiogel.

Os oes angen offer mwy sylweddol arnynt, fel cymorth sefyll, y nod yw eu helpu i fynd ymlaen i ddefnyddio ffrâm Zimmer neu ffon gerdded, gan ddibynnu ar allu'r unigolyn.

Nid yn unig mae hyn o fudd i'r cleifion, ond mae hefyd yn arbed costau i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Meddai Anne: “Os nad yw annibyniaeth pobl yn cynyddu ar ôl cael strôc, maen nhw'n gallu datblygu'r angen am ofal iechyd tymor hir parhaus, yn enwedig os oes risg uwch o gwympo neu glwyfau pwysedd.”

Ym mis Mawrth y cafodd Mr Beer ei strôc. Bu yn Nhreforys am dridiau ac yna yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am fis.

Mae Steve Beer yn gwneud paned Effeithiwyd ar ei leferydd, ynghyd â’i fraich a’i goes dde. “Allwn i ddim symud fy nghoes o gwbl nes i Gary ddechrau ar ei waith. Galla' i sefyll nawr a cherdded gyda ffrâm.

“Mae'r gwasanaeth allgymorth wedi bod yn wych ac mae Gary yn arbennig. Mae wedi gwneud yn siŵr fy mod i'n gwneud cynnydd parhaus drwy'r adeg.”

Ar y dde: Amser am baned... Steve Beer yn gwneud te.

Mr Beer oedd claf allgymorth cyntaf Gary.  Fe ddiolchodd i'w deulu a staff yr ysbyty am bopeth y maent wedi'i wneud drosto.

“Rwy’n falch iawn gyda'r cynnydd mae wedi'i wneud,” meddai Gary, sydd wedi bod yn Dechnegydd Ffisiotherapi Pediatreg ers 21 mlynedd. “Mae e’n anhygoel.

“Rwy’n credu bod hwn yn wasanaeth dilynol da iawn, o weld cleifion ar y ward i’w gweld gartref.

“Mae'n golygu nad oes raid iddyn nhw ddod i'r arfer â pherson arall. Ar ôl cael strôc, mae'n ddigon anodd i gleifion beth bynnag.

“Rydyn ni wedi cael sylwadau gan berthnasau bod y cleifion yn bryderus ynglŷn â mynd adref. Ond mae'r ffaith ein bod ni'n darparu gwasanaeth dilynol yn gwneud bywyd yn llawer haws iddyn nhw.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.