Neidio i'r prif gynnwy

Galwyr COVID yn cysylltu â chleifion

Covid callers

Mae cynllun ffonio newydd er mwyn rhoi tawelwch meddwl i gleifion sydd newydd gael diagnosis o Covid-19 ym Mae Abertawe yn profi’n llwyddiant mawr.

Nod y cynllun, a gynhelir gan Dîm Clefydau Heintus Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Myfyrwyr Meddygol o Brifysgol Abertawe, yw cynnig cymorth i gleifion wrth iddynt ddod i delerau â'u diagnosis.

Ers i Covid-19 ddechrau lledu, mae 1,748 o gleifion ym Mae Abertawe wedi cael eu heintio a'u profi'n bositif, a hynny ar adeg pan fo llai o ofal iechyd ar gael.  Bu'n rhaid i lawer ymdopi â'u diagnosis drwy ddibynnu ar y rhyngrwyd ac ar y bobl o'u hamgylch am wybodaeth.  Gall rhai cleifion ddioddef o symptomau sy’n peri gofid iddynt am beth amser ar ôl gwella, gan ychwanegu at eu pryder.

Sefydlodd uwch reolwyr BIPBA y cynllun ar ôl sylweddoli y gall y diagnosis beri poen meddwl i gleifion ac nad oes ganddynt unrhyw ffordd o fynd i’r ysbyty neu at eu meddyg teulu i dawelu eu meddwl.

I ddechrau, fe wnaeth tîm o feddygon Clefydau Heintus, sef Dr Ian Blyth, Dr Claire Johnston, Dr Alice Bone ac Abigail Holborrow, fynd ati i lunio profforma er mwyn ffonio cleifion.  Fe luniwyd sgript ganddynt hefyd, a oedd yn darparu atebion i gwestiynau cyffredin.

Cynhaliwyd cynllun peilot i weld sut byddai cleifion yn ymateb i alwad ffôn fel hon, ac fe brofodd yn hynod o gadarnhaol.

Yn dilyn hynny, mae tîm o fyfyrwyr, dan arweiniad Katie-Rose Cawthorne, Cameron Avo a Lavinia Porter, wedi bod yn gweithio’n ddyddiol i ffonio’r holl gleifion y gwyddom amdanynt sydd wedi cael prawf positif.  Maent yn gwirio eu bod yn iawn, yn holi sut maent yn dod ymlaen, yn rhoi cymorth os yw'n bosibl, yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill lle bo angen ac yn ateb cwestiynau lle bo'n briodol.

Dywedodd Lavinia Porter: "Ers y cynllun peilot, cysylltwyd â 452 o gleifion a rhoddodd y mwyafrif ohonynt ddeg allan o ddeg am y cymorth a gafwyd dros y ffôn.  Y cwestiwn mwyaf cyffredin a ofynnwyd oedd a yw'n bosibl i bobl gael eu hailheintio gan COVID-19 ar ôl iddynt brofi'n bositif. "

Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o alwadau wedi cael derbyniad da iawn, er bod nifer fach o gleifion nad oeddent yn gwerthfawrogi cael eu ffonio. Hoffai pawb sy'n ymwneud â'r prosiect ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu ofid anfwriadol a achoswyd i'r unigolion hyn.

Dywedodd Katie-Rose Cawthorne: "Roedd yn gyffredin cael sylwadau fel ‘Dw i ddim wedi teimlo'n gyfforddus yn siarad ag unrhyw un am hyn o'r blaen' ac 'Mae'n wych bod rhywun yn cysylltu â fi wedyn', ac mae hyn yn dangos cymaint roedd cleifion yn gwerthfawrogi derbyn galwad." 

Dywedodd Brendan Healy, Arweinydd Clinigol ar gyfer y Tîm Clefydau Heintus: "Mae'r profiad hefyd wedi bod yn hynod fuddiol i'r myfyrwyr.  Roedd y myfyrwyr yn gallu rhoi cymorth i gleifion yn y gymuned a meithrin sgiliau cysylltu a chyfathrebu clinigol hanfodol hefyd.  Roeddent yn gallu dysgu mwy am symptomau COVID-19 ac, yn bwysicach, yn gallu dysgu sut mae’n effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn seicolegol. 

"Mae'n debyg bod y myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn gwybod mwy bellach am symptomau ac effeithiau Covid nag unrhyw aelod arall o staff yn yr ysbyty.

"Mae'r prosiect hefyd wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod y Bwrdd Iechyd yn dangos faint mae'n gwerthfawrogi ei gleifion.  Mae’n rhoi cipolwg ar ba mor ddefnyddiol y gall galwad ffôn fod wrth ddarparu cymorth i gleifion a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau. 

"O feddwl pa mor gadarnhaol y bu’r ymateb, efallai bod hyn yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer anhwylderau eraill."

Ychwanegodd Katie-Rose: "Mae cwpl o gleifion sy’n sefyll allan yn fy meddwl gan eu bod yn amlwg wedi eu heffeithio gan y profiad o gael COVID-19 – roedd yn fraint gallu siarad â nhw a chynnig tawelwch meddwl.

"O ystyried bod ein lleoliadau wedi’u canslo, roedd hefyd yn gyfle gwych i roi ein dysgu ar waith. Rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus yn esbonio cysyniadau i gleifion; megis sut mae eu system imiwnedd yn gweithio. "
 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.