Oherwydd pwysau eithriadol a digynsail, ni allwn gyfieithu a diweddaru pob tudalen ar yr adeg hon. Fodd bynnag, mae'r tudalennau hyn - Coronafeirws COVID-19 a COVID-19: newidiadau dros dro i rai o'n gwasanaethau - yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.

Callum yn ôl ar ei draed ar ôl coma

Grŵp o bobl mewn gardd

Mae dyn ifanc, y chwalwyd ei fywyd ar yr union adeg pan oedd yn gwella ar ôl coma, wedi derbyn cefnogaeth gan dîm unigryw - y tîm cyntaf o'i fath yn y DU. 

Cafodd Callum Fleming ei dderbyn i Ysbyty Treforys fis Medi diwethaf gyda llid acíwt ar y pancreas.

O fewn tridiau, roedd y gosodwr carpedi 26 oed o Bort Talbot wedi mynd mor sâl nes iddo gael ei roi ar beiriant cynnal bywyd mewn uned gofal dwys.

“Roedd y cyfan yn niwlog iawn,” meddai Callum. “Fe ddeffrais i chwe wythnos yn ddiweddarach, heb wir wybod beth oedd yn digwydd.”

Mae’r lluniau uchod ac isod yn dangos Callum gyda’i rieni, Tina a Keith Fleming, Arweinydd y Tîm Ffisiotherapi ar gyfer Gofal Critigol, Karen James, a'r Technegydd Ffisiotherapi, Luke Thomas

Treuliodd Callum gyfanswm o dri mis yn yr ysbyty, gan dderbyn ffisiotherapi cyn ac ar ôl dychwelyd adref ddechrau mis Rhagfyr.

“Roedd y ffisiotherapi’n mynd yn dda iawn,” dywedodd. “Erbyn Gŵyl San Steffan roeddwn i’n cerdded ar draeth Aberafan. Fe ddechreuais i yrru unwaith eto.

“Roeddwn i'n rhedeg ar felin draed ac yn defnyddio peiriant rhwyfo, ac wedi cyrraedd y pwynt lle roeddwn i'n mynd i gael fy rhyddhau o ffisiotherapi.”

Ond yna, ddiwedd Chwefror, yn gwbl annisgwyl, dechreuodd cyflwr Callum ddirywio.

Roedd ei berfformiad mewn sesiynau ffisiotherapi’n gwaethygu ac roedd yn ei chael hi'n anodd cerdded, heb sôn am ddringo’r grisiau gartref.

I wneud y sefyllfa’n waeth byth, digwyddodd hyn yn union wrth i’r pandemig daro - gan olygu bod yn rhaid canslo ei ffisiotherapi a'i apwyntiadau ysbyty, a bod gweld meddyg teulu bron yn amhosibl.

Yn ffodus, wrth i’r gwasanaethau ailgychwyn yn araf, mae Callum yn cael help ac yn tyfu'n gryfach erbyn y dydd. Ond yn ystod y misoedd hir, tywyll hynny roedd ef a'i deulu, wrth iddynt frwydro i gael cymorth, yn teimlo eu bod wedi’u hanghofio.

Mae Callum wedi elwa’n arbennig o wasanaeth ffisiotherapi newydd, y cyntaf o’i fath yn y DU, sy’n trin cleifion ar ôl iddynt adael gofal dwys - ar y ward gyffredinol i ddechrau, ac yna yn ôl gartref.

Karen James sy’n rheoli'r Tîm Ffisiotherapi ar gyfer Gofal Critigol a Llawfeddygaeth yn Ysbyty Treforys.

“Er nad ydyn nhw'n gallu gwneud unrhyw beth tebyg i’r hyn y gallen nhw ei wneud o'r blaen, mae rhai cleifion yn rhy dda i gael mynediad at wasanaethau cymunedol.

“Ond yn aml mae ofn arnyn nhw fynd allan drwy’r drws.

“Dydyn nhw ddim yn siŵr beth maen nhw’n gallu ei wneud a beth na allant ei wneud.  Dydyn nhw ddim yn gwybod beth fydd lefel eu gallu corfforol, nac a ydyn nhw’n mynd i wella, na pha mor hir y bydd yn ei gymryd iddyn nhw wella.

“Pan fydd rhywun yn cael llawdriniaeth ar y galon, ceir cyfnod o adsefydlu cardiaidd, ac fe gân nhw raglen yn egluro popeth.

“Ond nid oes unrhyw wasanaethau ar ôl bod yn yr uned gofal dwys oherwydd bod gennyn ni grŵp mor amrywiol o gleifion.

“Fe allen ni gael popeth o fachgen ifanc 18 oed sydd wedi bod mewn damwain car i berson 75 oed ag anhwylder rhwystrol cronig ar yr ysgyfaint, felly allwn ni ddim eu rhoi mewn grwpiau ar gyfer eu hadsefydlu.

“Am y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gwneud clinig dilynol. Rydyn ni'n gweld cleifion ymhen tri mis ac yn cynnig cyfnod o chwe wythnos o adsefydlu iddyn nhw ar ôl hynny.

“Ond rydych chi'n clywed am yr heriau sydd gan bobl pan fyddan nhw’n mynd adref gyntaf.  Dydyn nhw ddim yn gallu dringo’r grisiau; maen nhw'n gorfod byw ar y llawr gwaelod; dydyn nhw ddim eisiau gadael y tŷ.

“Fe wnaeth hynny i ni feddwl am gael tîm a fyddai’n rhoi gofal dilynol iddyn nhw ar ôl symud o ofal dwys i ward arall, gan roi ychydig bach o gefnogaeth adsefydlu ychwanegol iddyn nhw ar y wardiau ac yna barhau â’r gofal dilynol wedi iddyn nhw fynd adref.”

Yn gynharach eleni, datblygwyd a chymeradwywyd cynlluniau am raglen adsefydlu ar gyfer cleifion ar ôl iddynt fod mewn uned gofal dwys.  Darparodd  Grŵp Gweithredu Gofal Critigol y Bwrdd Iechyd gyllid ar gyfer rhaglen peilot am flwyddyn.

Roedd y cynlluniau'n cynnwys dod â phobl i Ysbyty Treforys i gael hydrotherapi a chynnig rhaglenni ymarfer corff wedi’u lleoli yn y gymuned.

Ond ychydig cyn cyflwyno’r gwasanaeth newydd, gohiriwyd popeth oherwydd y Coronafeirws.

O’r diwedd, mae bellach wedi dechrau, gydag unrhyw un sydd wedi bod mewn gofal dwys am fwy na thridiau yn cael y cyfle i fod yn rhan o hyn.

Rydym yn cysylltu â nhw o fewn pum niwrnod iddynt ddod allan o'r ysbyty ac yn cynnig cefnogaeth ddilynol iddynt.

Mae hyn yn cynnwys sesiynau ffisiotherapi gartref gyda'r technegwyr ffisiotherapi Luke Thomas ac Adam Fulham, neu gyngor ymarfer corff dros y ffôn os yw hynny'n well ganddyn nhw.

Ar ôl 12 wythnos, gwahoddir pob claf i glinig dilynol. Clinig rhithwir yw hwn ar gyfer cleifion nad ydynt wedi cael Covid, ond gan fod angen pelydr-X ar hyn o bryd ar y rhai sydd wedi cael y feirws, maen nhw’n cael eu gweld yn yr ysbyty ar yr un pryd â’u hapwyntiad pelydr-X.

Meddai Karen: “Mae cleifion Covid yn gallu gwneud mwy na chleifion eraill.

“Maen nhw wedi cael llawer o adsefydlu yn yr ysbyty, maen nhw’n cael cefnogaeth ddilynol yn y gymuned ac maen nhw'n dod ymlaen yn rhyfeddol o gyflym.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld bod y problemau seicolegol i gleifion Covid ychydig yn fwy.

“Maen nhw wedi cael coctel eithaf mawr o gyffuriau ac wedi eu parlysu am gyfnodau eithaf hir.

“Rydyn ni’n teimlo y gallai fod mwy o ganlyniadau seicolegol tymor hir nag y bydden ni fel arfer yn ei ddisgwyl gyda rhai o'n cleifion gofal dwys.

“Mae'r effeithiau seicolegol yn amrywio hefyd. Rydych chi'n disgwyl mai’r bobl fwyaf sâl fydd waethaf ond yn aml pan fyddwch chi'n cael eich tawelu a'ch parlysu, dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n digwydd o'ch cwmpas.

“Pan ydych chi'n effro, ac yn gweld pethau'n digwydd i bobl eraill, gall fod yn fwy trawmatig nag i'r rhai sy'n gorwedd yno'n cysgu.

“Nid oes gan rai pobl unrhyw gof o gwbl o fod mewn uned gofal dwys, ac mae gan rai eraill ryw frith gof yn unig, sydd wedi'i gymysgu â'r breuddwydion a'r gweledigaethau a'r rhithwelediadau y maent wedi'u profi oherwydd y feddyginiaeth.

“Mae ganddyn nhw atgofion cymysg a brawychus iawn o’r hyn sydd wedi digwydd yn yr uned gofal dwys.

“Mae rhai pobl yn dod allan ohono ac yn dweud, 'Mae wedi newid fy mywyd, mae fy mywyd gymaint yn well nawr oherwydd i mi oroesi hyn.' Mae pobl eraill yn cael trafferth ac yn teimlo fel na allan nhw ddod drosto. ”

Mae yna heriau hefyd i gleifion a aeth i mewn i uned gofal dwys cyn y pandemig ond a ddaeth adref i fyd hollol wahanol oherwydd bod y cyfyngiadau mewn grym.

Roedd popeth wedi newid. O'r blaen, efallai y bydden nhw wedi gwylio gêm bêl-droed ar y teledu, ond nawr doedd dim pêl-droed i’w weld. Roedd hynny, meddai Karen, yn sioc enfawr gan nad oedden nhw wir wedi sylweddoli beth roedden nhw wedi bod drwyddo.

“Yn anffodus, rydyn ni hefyd wedi cael cryn dipyn o gleifion sydd wedi colli pobl oedd yn annwyl iddyn nhw, gan fod Covid yn tueddu i effeithio ar deuluoedd.

“Dyna agwedd enfawr arno. Mae pobl yn teimlo ychydig yn euog iddynt oroesi, yn ogystal ag yn ceisio delio gyda chanlyniadau’r cyfnod arswydus y maen nhw wedi bod drwyddo.”

Mae'r adborth ers i'r rhaglen ffisiotherapi gychwyn wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Gan fod yr un tîm yn darparu ffisio ar gyfer gofal dwys, ar y ward ac yn y cartref, ceir yr elfen allweddol honno o ofal parhaus.

Mae Karen yn cofio un claf yn dweud bod y tîm yn deall yr hyn yr oedd wedi bod drwyddo, ac felly bod gallu siarad â nhw am ei brofiadau wedi gwneud gwahaniaeth seicolegol enfawr.

Ychwanegodd Karen: “Roedd yn ffodus ein bod eisoes wedi cytuno ar y rhaglen, neu fel arall ni fyddai’r cleifion hyn wedi cael eu gweld am dri mis. Fydden nhw ddim wedi cael unrhyw beth ar ôl cyrraedd adref.

“Mae'r gwasanaeth yn unigryw. Does dim byd tebyg iddo yn unman arall yn y DU. Mae'n wych ac rydw i mor falch ohono.

“Mae gennyn ni dîm rheoli hynod gefnogol. Mae'r Metron, Carol Doggett, y nyrsys, a phawb wedi bod yn anhygoel.

Grŵp o bobl mewn gardd “Mae John Gorst, sy’n Ymgynghorydd Gofal Dwys, wedi bod yn gefnogol iawn, ac mae hynny hefyd yn wir am Paul Temblett, y Dwysegydd Ymgynghorol sy'n rhedeg y clinig dilynol. Mae pawb wedi cefnogi’r cynllun. ”

Mae'r tîm wedi bod yn helpu Callum ers mis Mehefin, gan wneud gwahaniaeth aruthrol mewn cyfnod mor fyr.

Nid oes ganddo unrhyw syniad beth achosodd ei ddirywiad sydyn ar ôl gwneud cynnydd da  hyd hynny.

“Fe es i o ddrwg i waeth nes nad oeddwn i’n gallu codi o’r soffa. Allwn i ddim dringo’r grisiau. Roedd yn rhaid i fi gael help i symud drwy’r amser. Fe syrthiais i deirgwaith, ac fe fu’n rhaid i fi fynd i’r Adran Achosion Brys ar ôl un cwymp.

“Roedd pethau wir yn anodd yn ystod yr holl fisoedd hynny.”

Roedd brawd iau Callum, Jack, a'i rieni Keith a Tina, yn eu gwarchod eu hunain gydag ef. Fe wnaethant yr hyn a allent i helpu, yn cynnwys ailwneud rhai o'r ymarferion ffisio a roddwyd iddo cyn hynny.

Er gwaethaf eu hymdrechion gorau, fodd bynnag, parhaodd Callum i ddioddef yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Doedden ni ddim yn gallu gweld unrhyw un er mwyn datrys y sefyllfa. Fe ddes i’n fwyfwy dibynnol ar eraill, ” meddai.

“Byddwn yn aros yn y gwely dim ond oherwydd ei bod mor anodd symud o gwmpas a mynd i lawr y grisiau.

“Roedd yna ddyddiau pan doeddwn i ddim eisiau wynebu’r byd. Doeddwn i ddim hyd yn oed eisiau siarad â’m rhieni na’m teulu fy hun.

“Ond mae cael ffisio yn rhoi rhywfaint o strwythur i fi yn fy niwrnod ac wedi fy ngwneud i’n benderfynol o wella.

“Wn i ddim beth fyddai fy sefyllfa nawr pe na bawn i wedi cael help y ffisiotherapyddion. Mae'n debyg y byddwn i’n gaeth i'r gwely.

“Mae'r sesiynau o fudd i fi’n gorfforol ac yn feddyliol. Rwy'n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth yn hytrach na dim ond gorwedd yn y gwely neu eistedd ar y soffa’n gwylio'r teledu.

“Mae’r ffisiotherapyddion wedi rhoi pwrpas i mi eto, ac wedi rhoi’r awydd ynof i i frwydro.”

Dywedodd Keith fod naws yr aelwyd gyfan wedi newid.

“Pan oedd Callum yn teimlo’n isel roedden ni i gyd yn isel. Mae Jack wedi bod trwy lawer, wrth weld beth oedd yn digwydd i'w frawd - maen nhw'n agos iawn. Fe beidiodd yntau â gweithio hefyd oherwydd ein bod ni’n ein gwarchod ein hunain.

“Pan ddaeth y ffisiotherapyddion yma, roedd fel petai golau wedi ei droi ymlaen yn y tŷ. Roedd rheswm i godi a pharatoi. Fe gododd hynny ein hwyliau ni. Roedd yn hollol wahanol. ”

Ychwanegodd Tina, mam Callum: “Mae cael y ffisiotherapyddion yn ôl wedi gwneud pethau’n haws.

“Maen nhw’n gallu dangos i ni beth allwn i ei wneud i helpu Callum. Ac mae cael y ffisiotherapi yn ysgafnhau ei ddiwrnod. Rydyn ni'n teimlo ei fod e’n cael help o’r diwedd a bod rhywbeth yn digwydd, achos roedd e wir ar ei isaf.”

Nid yn unig y mae Callum bellach yn cael ffisiotherapi dair gwaith yr wythnos, mae hefyd yn cael profion yn yr ysbyty ac yn gweld ymgynghorydd.

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y gallaf gael fy nhrin a pharhau i gael ffisiotherapi’n rheolaidd er mwyn gallu bod fel roeddwn i. Rydw i wedi ei wneud o'r blaen ac rwy'n gobeithio y gallaf ei wneud eto. "