Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad Scar Free ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio rhaglen 3 blynedd ymysg y gorau yn y byd o ymchwil i ailadeiladu wynebau

Uchod yr Athro Iain Whitaker, Tom Jovic a Cynthia Decourcey yn y labordy

Mae rhaglen ymchwil gwerth dros £2.5 miliwn ymysg y gorau yn y byd sydd â’r nod o chwyldroi gallu llawfeddygon i ailadeiladu cartilag y trwyn a’r glust mewn cleifion sydd wedi’u heffeithio gan wahaniaeth ar yr wyneb yn cael ei lansio heddiw, 21 Gorffennaf, gan The Scar Free Foundation, yr unig elusen ymchwil feddygol sy'n canolbwyntio yn gyfan gwbl ar greithiau, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd y rhaglen tair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe yn cael effaith fyd-eang – gan hybu bioargraffu 3D cartilag ar gyfer ailadeiladu wynebau ac archwilio sut mae creithiau wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl drwy ddadansoddi data o garfan fwyaf y byd o bobl sy'n byw gyda'r gwahaniaeth gweladwy hwn.

Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth sylweddol i’r wyneb, a gall hyn gael effaith ddofn ar iechyd meddwl y cleifion. Bydd Rhaglen Ymchwil Ailadeiladu ac Adfywio Wynebau The Scar Free Foundation/ Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mhrifysgol Abertawe yn datblygu bioargraffu 3D cartilag yr (clustiau a thrwyn), gan ddefnyddio celloedd dynol a deunyddiau o blanhigion ar gyfer trin pobl yn y DU ac ar draws y byd yn y dyfodol sydd naill ai'n cael eu geni heb rannau o'r corff neu sy'n byw gyda chreithiau wyneb o ganlyniad i losgiadau, trawma neu ganser.

Bydd hyn yn cael ei gyfuno gydag astudiaeth fwyaf y byd o bobl sy'n byw gyda chreithiau wyneb i asesu'r effeithiau seico-gymdeithasol ar gleifion - o ran profiadau o orbryder neu iselder – er mwyn gallu datblygu strategaethau gofal iechyd effeithiol a'u targedu'n briodol.

Llun o prosthetic Mae cleifion sy'n byw gyda cholli clust/trwyn wedi dweud wrth ymchwilwyr nad yw’r prosthesis plastig sydd ar gael ar hyn o bryd yn teimlo'n 'rhan ohonynt' ac y byddai'n well ganddynt pe bai eu meinwe eu hunain yn cael ei ddefnyddio i'w hailadeiladu. Bydd y rhaglen ymchwil yn mynd i'r afael â'r broblem hon drwy greu sgaffaldiau 'cartilag' personol y mae bôn-gelloedd y claf ei hun wedyn yn tyfu arnynt, ar gyfer ailadeiladu'r wyneb, er mwyn osgoi'r angen i gymryd cartilag o fannau eraill yn y corff (a fyddai'n arwain at ragor o greithiau ac yn gallu achosi cymhlethdodau eraill).

Cartilag yw'r prif fath o feinwe cysylltiol a welir ym mhob rhan o'r corff. Mae'n gwasanaethu amrywiaeth o ddibenion strwythurol a swyddogaethol ac mae'n bodoli mewn gwahanol fathau yn ein holl gymalau, esgyrn, asgwrn cefn, ysgyfaint, clustiau a thrwyn.

Arweinir yr ymchwil gan yr Athro Iain Whitaker - yr unig athro llawfeddygaeth blastig yng Nghymru - Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac Arweinydd Arbenigol Llawfeddygol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd y rhaglen arloesol yn mynd â'r ymchwil 3D BIO-FACE  sydd o'r radd flaenaf yn y byd i'r cam nesaf - gan ddatblygu cartilag wyneb yn sgil bioargraffu 3D gan ddefnyddio bôn-gelloedd/celloedd genedlyddol penodol cartilag dynol a nanocellulose (sy'n deillio o blanhigion) fel bioinciau ar gyfer ailadeiladu'r wyneb.

Mae’r rhaglen newydd hon yn ategu astudiaeth gychwynnol (gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol y Llawfeddygon) yn seiliedig ar waith PhD Ms Zita Jessop, sydd bellach yn Uwch Ddarlithydd yn y tîm, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol blaenorol eraill. Gwnaethpwyd gwaith PhD dilynol gan Mr Tom Jovic, a ariannwyd gan Action Medical Research a Microtia UK.

Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i bennu'r cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd, optimeiddio bioinciau nanocellulose ar gyfer bioargraffu 3D strwythurau cartilag sy'n benodol i gleifion a dangos eu bod yn ddiogel, yn anwenwynig ac yn cael eu goddef yn dda gan y system imiwnedd. Bydd hyn yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer ailadeiladu'r wyneb.

Llun o Iain Whitaker Dywedodd yr Athro Iain Whitaker (gweler ar y dde) : "Rwy'n ddiolchgar am y buddsoddiad a'r gefnogaeth sylweddol hon gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn cyflymu ein hymdrechion ymchwil parhaus i gynnig opsiynau triniaeth arloesol i gleifion a recriwtio rhagor o ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru.

"Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi amlygu bod y gallu i argraffu 3D meinwe byw yn llwyddiannus fel un o elfennau dyfodol llawdriniaeth a dewisodd Llywodraeth y DU feddygaeth adfywio yn un o 'Wyth technoleg wych' i sbarduno'r DU i dwf yn y dyfodol.

"Bydd trosi'r rhaglen ymchwil hon yn llwyddiannus yn trawsnewid dyfodol llawdriniaeth, gan ddileu'r angen i drosglwyddo meinwe o un rhan o'r corff i'r llall ac osgoi'r boen a'r creithiau cysylltiedig. Er ein bod yn canolbwyntio ar gartilag ar hyn o bryd, gellir cymhwyso'r cysyniadau gwyddonol a thechnolegau platfform y mae ein gwaith yn seiliedig arnynt i fathau eraill o feinwe fel pibelli gwaed, nerfau, esgyrn, croen a braster a fydd yn gwella'r effaith yn sylweddol."

Dywedodd yr Athro Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Rydym yn byw mewn cymdeithas y mae’n ymddangos sy’n canolbwyntio fwyfwy olwg felly mae gwir angen deall canlyniadau iechyd meddwl creithiau wyneb a'u hachosion sylfaenol. Mae hyn yn amrywio o ymatebion cymdeithasol, delwedd y corff, rhywedd, problemau iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes i'r hyn a achosodd y graith.

"Gwyddom fod perygl o orbryder ac iselder yn y rhai sydd â chreithiau wyneb ond mae llawer o'r dystiolaeth yn seiliedig ar astudiaethau tymor byr. Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar yr hyn a allai esbonio pwy, pryd a pham y gallai pobl gael eu heffeithio'n gryfach er mwyn gallu wneud rhywbeth yn ei gylch yn gynnar a datblygu ffyrdd newydd o reoli ac atal y materion iechyd meddwl hyn. Er nad yw mor weladwy â'r graith wyneb gall y problemau iechyd meddwl hyn gael effeithiau pellgyrhaeddol hirdymor ar fywydau a pherthnasoedd pobl.

"Mae'n wych gweld y rhaglen ymchwil arloesol hon yn mynd i'r afael â'r materion hyn ochr yn ochr ag arloesi llawfeddygol."

Dywedodd Brendan Eley, Prif Weithredwr The Scar Free Foundation: Mae rhoi'r gallu i lawfeddygon yn y dyfodol ailadeiladu wynebau pobl gan ddefnyddio eu celloedd eu hunain heb fod angen rhagor o greithiau yn chwyldroadol.

"Rydym yn falch iawn o weithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i lansio rhaglen mor arloesol ym Mhrifysgol Abertawe. Gwyddom y gall creithiau gael effaith emosiynol a chorfforol hirdymor ar bobl a bydd yr astudiaeth hon hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae creithiau wyneb yn arbennig yn effeithio ar iechyd meddwl, gan arwain at driniaethau newydd.

Mae'r ymchwil hwn sy'n newid bywydau yn rhan o'n hymrwymiad i gyflawni gwella heb greithiau o fewn cenhedlaeth i'r miliynau o bobl sy'n byw gyda chreithiau yn y DU ac ar draws y byd."

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae gan y rhaglen arloesol hon y potensial i newid bywydau pobl ledled y byd. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â The Scar Free Foundation i ariannu ymchwil sy'n arwain y byd, a allai, o dan arweiniad yr Athro Whitaker, wneud cymaint o wahaniaeth."

Llun o Sefydliad ymchwil Scar Free Foundation a Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y tu allan i Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe. (O'r chwith i'r dde, Octavian Parkes, yr Athro Iain Whitaker, Tom Jovic, Em Combellack, Cynthia Decourcey.)

Ariennir y rhaglen arloesol sydd ymysg y gorau yn y byd mewn partneriaeth gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn sefydlu trosolwg cenedlaethol cynhwysfawr o natur a chyflwr y triniaethau a'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i gleifion canser y croen ledled Cymru, lle bydd aelodau'r grŵp Mr Tom Dobbs a Mr John Gibson yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Whitaker i wneud argymhellion ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar angen cleifion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.