Neidio i'r prif gynnwy

Mae cymorth clyw newydd yn gerddoriaeth i glustiau'r arddegau

Mae

Bellach gall bachgen yn ei arddegau sy’n caru cerddoriaeth glywed ei hoff draciau’n glir am y tro cyntaf diolch i’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael ym Mae Abertawe.

Wedi’i eni’n hollol fyddar, Gethin Davies yw’r person cyntaf ym Mae Abertawe i gael gosod un o’r cymhorthion clyw diweddaraf sydd ar gael gan y GIG – y Danalogic Ambio Smart.

Mae gan y cymhorthion, y mae Gethin yn eu treialu ar hyn o bryd, gysylltedd annatod, felly gall ffrydio'n ddi-wifr o ffôn neu ddyfais Bluetooth.

Mae'n golygu bod y bachgen 15 oed bellach yn gallu clywed cerddoriaeth yn llawer cliriach a hyd yn oed ateb galwadau ffôn.

Gwneir hyn i gyd trwy ap, sydd hefyd yn caniatáu i addasiadau gael eu gwneud i eglurder lleferydd, sŵn a chyfeiriadedd, gan helpu Gethin i ganolbwyntio ar sain benodol heb gael ei dorri i ffwrdd oddi wrth synau eraill o'i gwmpas.

Nid yw'r buddion yn dod i ben yno chwaith. Ac yntau'n hoff o chwaraeon, mae ei gymhorthion newydd yn lleihau'r risg o leithder sy'n effeithio ar ei ddyfeisiau clyw tra ei fod yn cystadlu mewn chwaraeon amrywiol.

Mae  Ar ôl gwisgo cymhorthion clyw ers pan oedd yn 11 wythnos oed, mae’r dechnoleg newydd wedi rhoi mwy o annibyniaeth i Gethin.

Diolch i Sarah Theobald, pennaeth gwasanaethau awdioleg, a Natalie Phillips, pennaeth awdioleg bediatrig, mae ganddo bellach y cymorth clyw cyntaf o’i fath yn ardal Bae Abertawe.

“Rwy’n falch iawn o fod y person cyntaf i gael y cymhorthion clyw newydd hyn,” meddai Gethin.

“Roeddwn i’n arfer ei chael hi’n anodd clywed sgyrsiau mewn amgylcheddau prysur fel yr ystafell fwyta, y maes chwarae ac yn ystod chwaraeon, lle mae pobl yn symud o gwmpas.

“Rwyf wedi addasu i hyn dros y blynyddoedd ond yn fwy diweddar canfûm fod defnyddio ffôn symudol a gwrando ar gerddoriaeth yn llawer anoddach gan ei bod yn cymryd amser i ddod o hyd i glustffonau a fyddai’n mynd dros fy nghymhorthion clyw heb achosi llawer o adborth.

“Byddwn i’n ceisio osgoi siarad ar y ffôn heblaw defnyddio Facetime a byddai’n well gen i anfon neges destun.

“Ond sylwais pan oeddwn yn cystadlu mewn chwaraeon, roedd adran batri fy nghymhorthion yn mynd yn llaith o chwys. Byddai hyn weithiau’n arwain at ddiffodd y ddyfais, sydd yn amlwg ddim yn wych ac yn effeithio’n fawr ar fy mwynhad ohoni.”

Newidiodd hynny i gyd yn dilyn adolygiad clyw diweddar gyda’r adran awdioleg yn Ysbyty Singleton, sydd bellach yn rhoi’r cymorth clyfar pan fo’i angen ac yn addas.

Mae  “Mae technoleg cymorth clyw yn gwella’n gyson o ran ansawdd sain ac o ran gwneud cymhorthion clyw yn haws i’w defnyddio ynghyd â’r holl ddyfeisiau eraill sydd gennym yn ein bywyd nawr,” meddai Sarah.

“Bydd clywed trwy gymorth clyw bob amser yn wynebu ei heriau ond mae pob cenhedlaeth o gymhorthion clyw yn darparu rhywfaint o fudd dros yr olaf, felly mae'n wych gallu darparu'r gwelliannau hyn i'n cleifion pan fydd angen uwchraddio cymorth clyw arnynt.

“Rydym yn defnyddio nifer o wahanol gymhorthion clyw sydd ar gael i gyfrif am y gwahanol fathau a graddau (ysgafn i ddwys) o golled clyw. Mae anghenion cleifion yn cael eu hystyried, ynghyd â graddau eu colled clyw i benderfynu ar y model addas.”

YN Y LLUN: Natalie Phillips (chwith) a Sarah Theobald o adran awdioleg Bae Abertawe.

I Gethin, mae’n golygu bod ei fwynhad o chwaraeon a cherddoriaeth, yn arbennig, wedi cynyddu’n sylweddol, ynghyd â bod o fudd i’w gyfathrebu â theulu, ffrindiau ac yn yr ysgol.

Mae'r cymhorthion clyw, meddai, wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

Meddai Gethin: “Maen nhw’n anhygoel a dwi wrth fy modd yn gallu clywed y cantorion ac nid y bas yn unig pan dwi’n chwarae cerddoriaeth.

“Mae’r cymhorthion hyn yn gallu gwrthsefyll dŵr yn well a dydw i ddim wedi cael unrhyw broblemau gyda nhw’n diffodd yn ystod chwaraeon.”

Mae  Mae Gethin wedi bod yn yr adran awdioleg yn Ysbyty Singleton ers pan oedd yn bedair oed, ac nid oes ganddo ddim ond canmoliaeth am y gofal a’r arbenigedd y mae wedi’u derbyn am yr 11 mlynedd diwethaf.

“Dw i wedi cael cefnogaeth gyson gan yr adran awdioleg – maen nhw wedi bod yn wych drwy’r amser,” meddai Gethin.

“Rhaid i mi sôn yn arbennig am Sarah, a oedd yn brif awdiolegydd i mi tan eleni.

“Mae Sarah bob amser wedi bod yn wych ac wedi bod yn ymatebol iawn i fy anghenion newidiol dros y blynyddoedd.

“Mae gweld yr un awdiolegydd y rhan fwyaf o’r amser yn gwneud pethau gymaint yn haws ac rydw i bob amser yn gyfforddus oherwydd rwy’n ei hadnabod ac mae hi’n fy adnabod i.

“Yn ystod y pandemig, roedd gen i rai problemau gyda’m cymhorthion ac fe wnaeth yr adran hi’n hawdd iawn cael trefn ar bethau.

“Cwrddais â Natalie am y tro cyntaf trwy ymgynghoriad ar y we ac yna yn bersonol eleni - roedd hi'n gyfeillgar iawn ac yn gwrando ar fy atebion yn ofalus ac yn gallu cynnig awgrymiadau ac atebion i unrhyw faterion a godais.

“Rwyf wrth fy modd gyda’r adran yn ei chyfanrwydd, ac rwy’n ddiolchgar am yr hyn y maent wedi’i wneud i mi.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.