Neidio i'r prif gynnwy

Cyngerdd elusennol yn cyrraedd y nodyn perffaith gyda chyfraniad hael i Uned y Fron Singleton

Mae Uned y Fron Ysbyty Singleton wedi dweud diolch yn fawr iawn i’r rhai sy’n codi arian sydd wedi cyfrannu bron i £3,000 ar ôl cynnal cyngerdd côr elusennol.

Grŵp Dathlu Cerddoriaeth yn Llanbedr Pont Steffan fu’n cynnal y gyngerdd yn Eglwys San Pedr y dref yr haf diwethaf.

Fe’i trefnwyd gan organydd yr eglwys Elonwy Pugh-Huysmans, y mae ei chwaer Auriol Pugh yn cael triniaeth yn yr uned ym Mae Abertawe ar hyn o bryd.

Roedd y cyngerdd hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i Ms Pugh-Huysmans a’i chyd-organyddes San Pedr Debra Davies ddechrau chwarae yn yr eglwys – ac roedd y digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn.

Mae'r rhodd yn cyd-fynd â Diwrnod Canser y Byd y penwythnos hwn, sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth o ganser ac annog ei atal, ei ganfod a'i driniaeth.

Yn y llun uchod, o'r chwith mae nyrs gofal y fron Zoe Evans, arbenigwr cyswllt Firas Ibrahim, derbynnydd Rhondalynn Morris, nyrs gofal y fron Andrea Jones ac Elonwy Pugh-Huysmans.

“Roedd yn achlysur neis iawn ac mae’n wych ein bod ni mewn sefyllfa i wneud rhywbeth fel hyn i’r uned,” meddai Ms Pugh-Huysmans.

“Cawsom ni fel teulu flwyddyn heriol yn 2023 ond mae’r gofal mae Auriol wedi bod yn ei dderbyn yn Ysbyty Singleton wedi bod yn wych. Felly mae'n hyfryd i ni allu mynegi ein diolchgarwch fel hyn. Cawsom noson hyfryd ar ei chyfer ym mis Mehefin ac roedd yr eglwys dan ei sang.”

Codwyd cyfanswm o £2,697 o werthu tocynnau a rhoddion.

Bydd yr arian yn mynd i Gronfa Gwaddol y Fron sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gofal cleifion ac i gefnogi gweithgaredd uned y fron.

“Mae’n swm syfrdanol i’w godi o’r digwyddiad a hoffem ddiolch yn fawr iawn i Elonwy, ei theulu a phawb fu’n ymwneud â threfnu a pherfformio yn y digwyddiad a hefyd i bawb yn ardal Llambed a’i cefnogodd,” meddai Tara Sage, sy'n gweithio fel ysgrifennydd meddygol gyda'r uned ac sydd wedi bod yn cysylltu â Ms Pugh-Huysmans ynglŷn â'r codi arian.

Mae Cronfa Gwaddol y Fron yn un o gannoedd o gronfeydd unigol sy'n dod o dan ymbarél Elusen Iechyd Bae Abertawe.

Dyma elusen swyddogol y bwrdd iechyd. Defnyddir yr arian a godir ar gyfer offer, hyfforddiant staff, ymchwil a phrosiectau arbennig er budd ein cleifion a'n staff, y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Os yw'r stori hon wedi eich ysbrydoli i godi arian ar gyfer eich GIG lleol, yna byddai Elusen Iechyd Bae Abertawe wrth eu bodd yn clywed gennych.

Elusen Iechyd Bae Abertawe (rhif elusen gofrestredig 1122805) yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

E-bostiwch y tîm elusen ar: swanseabay.healthcharity@wales.nhs.uk

Mae’n chwarae rhan hanfodol wrth godi arian ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n cefnogi cleifion, tra mae hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella’r amodau gwaith a’r cymorth sydd ar gael i staff.

Mae gan bron bob ward ac adran eu cronfa eu hunain, sydd i gyd yn dod o dan ymbarél Elusen Iechyd Bae Abertawe.

Felly os yw rhywun am roi rhywbeth yn ôl ar gyfer y gofal y maen nhw neu rywun annwyl wedi'i dderbyn, mae'r elusen yn sicrhau y bydd yr arian a godir yn mynd yn uniongyrchol yno.

Nid yw’r elusen yn disodli cyllid y GIG ond mae’n defnyddio cyfraniadau cenedlaethau a dderbyniwyd gan gleifion, eu teuluoedd, staff a chymunedau lleol i ddarparu y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon i wefan Elusen Iechyd Bae Abertawe

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.