Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19: Adolygiad Nosocomial

Mae llawer iawn o bobl wedi marw yn ystod y pandemig hwn ar ôl cael y firws ofnadwy hwn. Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid.

Mae coronafirws yn drosglwyddadwy iawn yn enwedig mewn lleoliadau caeedig fel ysbytai.

Rydyn ni'n gwybod y gall pobl drosglwyddo'r firws i eraill heb ddangos unrhyw symptomau eu hunain.

Mae atal trosglwyddiad nosocomial o haint COVID-19, fel ym mhob gwlad, wedi bod yn ffocws ac yn her fawr i Gymru.

Mae’r GIG yng Nghymru wedi gweithio’n galed iawn drwy gydol y pandemig i wneud popeth o fewn ei allu i gadw’r firws allan o ysbytai ac i amddiffyn y bobl sy’n derbyn gofal, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn.

Dilynwyd canllawiau atal a rheoli heintiau llym ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau helaeth ar gadw pellter cymdeithasol, ymweld ag ysbytai, awyru a PPE. Mae profion ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi'u blaenoriaethu

Roedd staff ymhlith y cyntaf i gael eu brechu ac mae miliynau lawer o eitemau PPE wedi cael eu defnyddio i helpu i amddiffyn staff a chleifion.

Drwy gydol y pandemig, mae’r GIG yng Nghymru, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau’r DU. Mae’r canllawiau hyn wedi’u diweddaru’n rheolaidd gan ein bod wedi dysgu mwy am y coronafeirws a sut mae’n lledaenu, gan gynnwys sut y gall pobl ledaenu’r firws heb ddangos unrhyw symptomau.

Mae canllawiau hefyd wedi'u dosbarthu i'r GIG ac yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ar gadw pellter cymdeithasol, gofod gwelyau, profion staff a chleifion, awyru a gwisgo masgiau.

Mae’n amlwg bod nifer uchel o achosion cymunedol o’r coronafeirws yn arwain at gyfradd uwch o dderbyniadau i’r ysbyty. Mae'n ymddangos wedyn bod trosglwyddiad nosocomial yn dilyn ymlaen o dderbyniadau i'r ysbyty.

Mae coronafirws wedi profi i fod yn drosglwyddadwy iawn ym mhob lleoliad caeedig, hyd yn oed pan nad oes gan unigolion unrhyw symptomau. O ganlyniad, mae trosglwyddiad nosocomial wedi bod yn amlwg ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru, ysbytai acíwt a llawer o gartrefi gofal.

Er gwaethaf yr holl fesurau a gymerwyd i ddiogelu rhag heintiau, yn anffodus mae pobl wedi marw ar ôl caffael COVID-19 mewn ysbytai.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi sefydlu Tîm Adolygu Nosocomial i nodi’r cleifion a gafodd Covid-19 yn bendant neu fwy na thebyg tra yn ein hysbytai, ac mae’r gwaith hwn bron wedi’i gwblhau. Diben yr adolygiad yw nodi unrhyw ddysgu i wella systemau a phrosesau, ac os oes unrhyw faterion yn ymwneud â’r gofal a ddarperir i nodi’r rhain yn unol â Rheoliadau’r GIG (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn (Cymru) 2011).

Rydym yn bwriadu dechrau cysylltu â theuluoedd ym mis Mehefin 2022 i roi gwybod iddynt am y sefyllfa, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ar gael.

Ewch yma i ddarllen ein papur bwrdd llawn ar gyfer 26ain Mai 2022

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.