Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau rhanbarthol yn gwella cefnogaeth gwirfoddoli yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Cymorth Gwirfoddoli Gorllewin Morgannwg

Ar 1 Gorffennaf, lansiwyd cyfres gyffrous o adnoddau newydd sy'n cynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector a chyrff cyhoeddus sy'n cynnwys gwirfoddolwyr wrth ddarparu eu gwasanaethau, pobl sy'n cychwyn wirfoddoli, a'r rhai sydd â syniadau gwych i wella ein cymunedau.

Yn gynharach eleni, sicrhaodd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg gyllid drwy grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwirfoddoli.

Daeth sefydliadau ynghyd i edrych ar yr hyn oedd ei angen i wella gwirfoddoli ledled y rhanbarth, adeiladu ar frwdfrydedd y miloedd o bobl a ddaeth ymlaen i gynnig cefnogaeth i eraill yn ystod y pandemig, a chynyddu'r nifer o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau.

Y canlyniad yw cyfres o ddeunyddiau trawiadol, gan gynnwys taflenni gwybodaeth, pecynnau cymorth, pecynnau hyfforddi ac animeiddiad dwyieithog sy'n ymdrin â phynciau fel camau cyntaf i wirfoddoli, Gwirfoddoli a Gofal Sylfaenol (canllaw i Ymarferwyr Gofal Sylfaenol), pecyn cymorth i Grwpiau Gyfeillion Parciau, gweithred unigol i weithred cymunedol, Adferiad Gwyrdd, a llawer mwy.

Dywedodd Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg “Mae’r adnoddau hyn yn darparu llwyth o wybodaeth a fydd yn helpu sefydliadau i gryfhau sut maent yn fynd at cynnig cyfleodd wirfoddoli. Mae'r cyfnod COVID-19 wedi gweld niferoedd enfawr o bobl yn cynnig help mewn unrhyw ffordd y gallant. Mae wedi bod yn anhygoel, a’r nod nawr yw parhau i harneisio’r brwdfrydedd hwnnw”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, Amanda Carr “Mae aelodau Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg wedi gweithio ynghyd i gynhyrchu adnodd rhagorol er mwyn hybu gwirfoddoli a chefnogi gwirfoddolwyr dros y rhanbarth. P'un a ydych chi'n ystyried gwirfoddoli am y tro cyntaf, a oes gennych chi syniadau i wella'ch cymuned, rydych eisoes yn cynnwys gwirfoddolwyr yn eich sefydliad neu'n meddwl sut y gallwch denu pobl i gymryd rhan; fe welwch gefnogaeth yma. Rwyf i, ynghyd â'r partneriaid eraill, yn edrych ymlaen at adeiladu ar etifeddiaeth y prosiect i wella'r cynnig gwirfoddoli dros Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot “.

Dywedodd Gaynor Richards, Cyfarwyddwr CVS Castell-nedd Port Talbot “Yn dilyn y digwyddiad Posibiliadau i Bobl lle rydym wedi gweithio gydag aelodau angerddol o’r gymuned i nodi’r heriau sy’n ymwneud â gwirfoddoli, mae dealltwriaeth glir bellach o egwyddorion gwirfoddoli a gwell gweithio mewn partneriaeth mewn a lefel ranbarthol. Mae partneriaethau’n gryfach ac mae proffil gwirfoddoli wedi’i godi, a byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull o wirfoddoli er mwyn bod o fudd i gymunedau lleol ”.

Dilynwch y linc yma i lawrlwytho copïau o'r holl ddeunyddiau.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.