Mae dwy chwaer, sydd wedi bod ar y rheng flaen gofal cymunedol sylfaenol yn ystod pandemig COVID-19, yn galw ar gyd-aelodau o'r gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) i gael eu brechu.
Mae Reem El-Sharkawi yn fferyllydd sy'n cefnogi grŵp o feddygfeydd yn Abertawe ac mae Dr Lamah El-Sharkawi yn feddyg teulu ym meddygfa'r Uplands a'r Mwmbwls, ac yn diwtor meddygon teulu yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Maent yn hanner Eifftaidd, hanner Libanaidd ac, yn eu geiriau hwy, yn gwbl Gymreig.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Reem a Lamah wedi gweld yr effaith ddinistriol y gall COVID-19 ei chael ar deuluoedd a chymunedau, yn broffesiynol ac yn bersonol.
“Rydyn ni i gyd wedi cael ein heffeithio’n fawr gan y pandemig COVID-19,” meddai Reem.
“Mae llawer ohonom - gan gynnwys fy chwaer a minnau - wedi colli anwyliaid i’r firws hwn, tra bod eraill yn dal i brofi ôl-effeithiau COVID-19 ymhell ar ôl ei ddal.”
Fel y gwelir mewn rhannau arall o'r DU, hyd yn hyn mae llai o bobl o gefndiroedd BAME ym Mae Abertawe wedi derbyn y cynnig o frechlyn COVID-19, o'i gymharu ag unigolion gwyn.
Mae arolygon cenedlaethol hefyd wedi dangos bod pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn gyffredinol yn llai tebygol o gael brechlyn COVID-19. Mae hyn am nifer o resymau, gan gynnwys sgîl-effeithiau posibl a diogelwch.
“Mae llawer o bobl yn dal i fod yn betrusgar ynglŷn â chael eu brechu,” meddai Lamah.
“Er ein bod yn deall eich pryderon, ac o ble y gallant ddod, mae mor bwysig ein bod ni gyd yn gwneud ein rhan ac yn amddiffyn ein hunain, ein teulu, ffrindiau a chymuned.”
Ychwanegodd Reem, “Un mater allweddol rydyn ni'n ei wybod yw fod gan lawer o bobl bryderon os yw’r brechlynnau COVID-19 yn ddiogel i’w cael, o ystyried pa mor gyflym y cafodd ei ddatblygu o’i gymharu â brechlynnau arall.
“Fe’u crëwyd gan wyddonwyr o bob cwr o’r byd. Dilynwyd yr holl gamau a gweithdrefnau cywir ond cafodd ei weithgynhyrchu a'i brofi ar gyfradd gyflym iawn oherwydd yr ymdrech a'r cyllid byd-eang hwn.
“Mae’r brechlynnau sy’n cael eu defnyddio gan y GIG ym Mae Abertawe ac ar draws y DU i gyd wedi’u cymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd sy’n gorff annibynnol sy’n craffu ac yn rheoleiddio ein holl frechlynnau a meddyginiaethau i sicrhau eu diogelwch a’u heffeithiolrwydd. ”
Mae Reem a Lamah eisoes wedi cael eu brechlyn, fel y mae eu tad, yr oncolegydd ymgynghorol wedi ymddeol Dr Salah El-Sharkawi.
“Byddem yn annog ein teulu, ffrindiau a phawb yn y gymuned yn gryf i gael y brechlyn hefyd,” meddai Lamah.
“Mae yna lawer o wybodaeth swyddogol ar gael ar wefannau’r llywodraeth, y GIG a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ond os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau am y brechlyn, peidiwch ag oedi cyn siarad â’ch meddyg teulu neu fferyllydd.
“Byddan nhw'n hapus i drafod y mater gyda chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi."
Mae mwy na 120,000 o bobl bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19 ym Mae Abertawe, gyda miloedd yn rhagor wedi archebu lle ar gyfer apwyntiad.
Mae pobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu brechu mewn meddygfeydd a chanolfannau brechu torfol yn ôl ble maen nhw yn y grwpiau blaenoriaeth a nodwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
Ar adeg ysgrifennu, mae cleifion yng ngrŵp 6 wedi dechrau cael eu galw am frechu, ynghyd â'r rhai dros 65 oed. Mae grŵp 6 yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol, gofalwyr di-dâl cymwys, pobl ag anableddau dysgu, a'r rheini ag afiechyd meddwl difrifol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.