Gallwch wneud cais am le i ddeintydd GIG ar-lein os:
Gall cleifion ddefnyddio're Porth Mynediad Deintyddion i wneud cais am le gyda deintydd GIG fel unigolyn neu ar ran eraill, fel plentyn, aelod o'r teulu neu gofalwyr cyflogedig neu ddi-dâl. Nid yw hyn ar gyfer y cleifion hynny sydd angel galwad brys, dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar ofal brys.
Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael. Nid yw'r bwrdd iechyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am ble rydych chi ar y rhestr na phryd y byddwch chi'n cael deintydd.
Peidiwch â ffonio'r rhif uchod i wirio ble rydych chi yn y ciw, cysylltir â chi cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn byw ym Mae Abertawe neu wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mae Abertawe ac angen cymorth i gael triniaeth ddeintyddol arferol, ffoniwch Linell Gymorth Deintyddol Bae Abertawe ar 01639 683223.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.