Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwên

Plentyn yn cael ei  dannedd ei frwsio
Cynllun Gwên yw:

Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant yng Nghymru: Mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i lansiwyd yn 2009. Mae holl wasanaethau’r Cynllun Gwên a holl driniaethau deintyddol y GIG i blant am ddim.

Rhaglen ataliol i blant o enedigaeth: Mae hon yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill. Y nodau yw helpu i ddechrau arferion da trwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, darparu brwsys dannedd a phast dannedd ac annog mynd i bractis deintyddol cyn pen-blwydd cyntaf plentyn.

Rhaglen ataliol ar gyfer plant meithrin a chynradd: Mae hyn yn cynnwys darparu rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid yn y feithrinfa ac yn yr ysgol i blant er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydredd.

YouTube

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.