Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Menyw mewn cadair deintydd yn cael archwilio ei dannedd
Cwestiynau Cyffredin am Wasanaethau Deintyddol

Ers 2006, nid oes angen cofrestru gyda deintydd yn yr un ffordd â gyda meddyg teulu oherwydd nad ydych yn rhwym i ddalgylch.

Unwaith y byddwch yn dod o hyd i ddeintyddfa, efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gofrestru yn ystod eich ymweliad cyntaf, sef dim ond i'ch ychwanegu at eu cronfa ddata cleifion, nid yw hon yn ffurflen gofrestru GIG.

Bydd deintyddion yn aml yn cynnig apwyntiadau i gleifion sydd wedi mynychu’n hanesyddol neu’n rheolaidd, ond bydd hyn yn dibynnu ar alluedd ar y pryd.

Cysylltwch â phractis deintyddol sy'n gyfleus i chi a gofynnwch am apwyntiad.

Os nad yw'r practis yn gallu cynnig apwyntiad, gallwch ofyn am gael ymuno â'u rhestr aros. Nid oes cyfyngiad ar nifer y rhestrau aros y gallwch ymuno â nhw.

I ddod o hyd i bractis deintyddol y GIG yn eich ardal, gallwch ddefnyddio'r offeryn Dod o Hyd i'ch Deintydd Lleol.

Fel arall, dilynwch y ddolen hon i weld rhestr lawn o bractisau deintyddol yn ardal Bae Abertawe.

Mae Gwasanaethau Deintyddol yn dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE - National Institute for Clinical Excellence) ar ba mor aml y mae angen archwiliad arferol ar glaf.

Os ydych chi wedi arfer mynd i'ch practis deintyddol bob chwe mis i gael archwiliad, gall hyn newid i chi nawr.

Bydd yr amser rhwng eich archwiliadau yn dibynnu ar ba mor iach yw eich dannedd a'ch deintgig.

Bydd eich deintydd yn trafod hyn gyda chi ac yn eich cynghori ar faint o amser sydd ei angen tan eich archwiliad nesaf.

Pan fyddwch yn mynd i'ch practis deintyddol i gael archwiliad, bydd eich dannedd a'ch deintgig yn cael eu hasesu a bydd eich deintydd yn debygol o gynnal Asesiad o Risg ac Angen Clinigol y Geg (ACORN - Assessment of Clinical Oral Risk and Need).

Bydd yr asesiad hwn yn eich rhoi mewn un o dri chategori, yn dibynnu ar iechyd eich ceg ar hyn o bryd:

Coch = Pydredd gweithredol

Ambr = Mewn perygl o bydredd

Mae'n debygol y gofynnir i gleifion Ambr a Choch fynychu archwiliad bob tri, chwech neu naw mis i sicrhau bod unrhyw faterion iechyd y geg gweithredol yn cael eu nodi a'u trin yn brydlon. Byddwch hefyd yn cael cyngor ar sut i wella iechyd eich ceg.

Gwyrdd = Risg isel, dim pydredd

Mae gan gleifion gwyrdd safon dda o iechyd y geg a dim ond bob 12 mis neu fwy y gofynnir iddynt fynychu archwiliad.

Gall rhai cleifion gael triniaeth ddeintyddol GIG am ddim fel y rhai dan 18 oed neu'r rhai sy'n feichiog neu sydd wedi cael babi o fewn y 12 mis cyn i'r driniaeth ddechrau.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru am fanylion llawn ynghylch a oes gennych hawl i driniaeth ddeintyddol y GIG am ddim.

Cyn i'ch triniaeth ddeintyddol ddechrau, dylai eich deintydd neu aelod o dîm y practis drafod y driniaeth sydd ei hangen a'r tâl perthnasol.

Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar y driniaeth sydd ei hangen a bydd yn un o’r tri thâl safonol isod:

Band 1 £20 – Bydd y tâl hwn yn cynnwys archwiliad, diagnosis a gofal ataliol. Os bydd angen bydd hyn yn cynnwys:

  • pelydrau-X
  • Cyngor iechyd y geg
  • Cynllunio ar gyfer triniaeth bellach

Band 2 £60 – mae’r tâl hwn yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol a gwmpesir gan y tâl Band 1 o £20 ynghyd â:

  • Llenwadau ychwanegol
  • Triniaethau camlas gwreiddiau
  • Echdyniadau
  • Triniaeth periodontol (ar gyfer clefyd y deintgig)

Band 3 £260 – mae’r tâl hwn yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol a gwmpesir gan y taliadau o £20 a £60 ynghyd â gweithdrefnau mwy cymhleth fel:

  • Coronau
  • Dannedd gosod
  • Pontydd

Gofal brys £30

Bydd hyn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd yn cynnwys pelydrau-x ac unrhyw driniaeth sy'n angenrheidiol i atal dirywiad sylweddol o'r cyflwr cyflwyno neu i fynd i'r afael â phoen difrifol.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am daliadau deintyddol y GIG.

Os oes gennych ddeintydd rheolaidd a'ch bod yn dioddef poen dannedd, dylech gysylltu â'ch practis deintyddol am gyngor ar sut i reoli'ch poen a, lle bo'n briodol, dylech gael apwyntiad brys.

Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd neu os oes gennych broblem ddeintyddol frys y tu allan i oriau gwaith arferol, ffoniwch 111 am gyngor a chymorth i ddod o hyd i apwyntiad deintyddol brys os oes angen.

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o fanylion am y Gwasanaeth Deintyddol Brys.

Os oes gennych gŵyn yn ymwneud â'r gofal yr ydych wedi'i dderbyn gan eich practis deintyddol, dylech godi'r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda'r practis o fewn 12 mis iddo ddigwydd.

Os nad ydych am siarad â'r practis, gallwch gysylltu â'r Tîm Cwynion yn y Bwrdd Iechyd.

Dilynwch y ddolen hon i ddod o hyd i fanylion ar sut i gysylltu â'n Tîm Cwynion.

Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n annibynnol.

Dilynwch y ddolen hon i gael manylion am sut i gysylltu â'r Ombwdsmon.

Ni fydd gan bractisau deintyddol y gallu bob amser i gynnig apwyntiadau addas i gleifion y GIG, gan fod eu hargaeledd GIG dan gontract wedi’i gyfyngu i faint eu contract GIG.

Y tu hwnt i hyn gall practisau gynnig apwyntiadau preifat i'w cleifion, gan fod y rhan fwyaf yn economi gymysg o ofal y GIG a gofal preifat.

Dylai'r practis gynnig yr apwyntiad GIG nesaf sydd ar gael i chi, fodd bynnag gan eu bod yn bractis cymysg efallai y cynigir dewis arall preifat i chi hefyd.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.