Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Bae Abertawe gyhoeddi bod nifer o sefydliadau allanol bellach yn cefnogi ymgyrch Cwtsh Clos.
Cymdeithas Adeiladu'r Principality - cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Principality, sydd eisoes wedi noddi digwyddiad gwobrau staff mewnol BIP Bae Abertawe, bellach yn cefnogi ymgyrch Cwtsh Clos drwy gyfrannu 30 o leoedd codi arian yn Hanner Marathon Caerdydd eleni.
Mae gwaith Advocates and Angels - cliciwch yma i ymweld â'u gwefan, yn cynnwys cefnogi teuluoedd bregus gyda phlant sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty am gyfnod hir, yn enwedig unedau fel NICU. Menter nodedig yw eu Pecynnau Gofal Chrysalis, sy'n darparu eitemau hylendid hanfodol ar gyfer dau riant sy'n gofalu yn ystod y 48 awr gyntaf hollbwysig o dderbyniad brys. Mae Advocates and Angels bellach yn cyflenwi'r pecynnau hyn i Cwtsh Clos.
Ac mae'r elusen leol The Leon Heart Fund - cliciwch yma am fwy o wybodaeth wedi cynnal cinio gala Coffa Leon gan godi dros £5,000 tuag at uwchraddio gerddi Cwtsh Clos, ac yn cynllunio digwyddiad codi arian arall yr haf hwn.
Os hoffai eich sefydliad gefnogi ymgyrch Cwtsh Clos, e-bostiwch swanseabay.healthcharity@wales.nhs neu ffoniwch 07977 659 647 a byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ymhellach.
Os hoffech roi rhodd ar-lein i Cwtsh Clos, gallwch wneud hynny drwy glicio yma.
I wneud cyfraniad gan ddefnyddio'ch ffôn, tecstiwch 'Donate Swanseabayhealth homes' i 88802.
Os hoffech chi godi arian i ni eich hun, neu gynnal digwyddiad codi arian, ewch i'n tudalen JustGiving ar gyfer Cwtsh Clos yma , lle cewch ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen we Cwtsh Clos drwy fynd yma i gael rhagor o wybodaeth am ganolfan NICU a’r apêl codi arian.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.