Croeso i rifyn diweddaraf ein cylchlythyr brechu.
Hyd yn hyn, mae tua 30,000 o frechiadau atgyfnerthu Covid yr hydref wedi’u rhoi gan y bwrdd iechyd yn ein canolfannau brechu lleol, hefyd gan bractisau meddygon teulu a gan fferyllfeydd cymunedol.
Rydym ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig brechiad atgyfnerthol yn yr hydref i bawb yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthol Covid yn yr hydref erbyn dechrau mis Rhagfyr, yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru.
Bydd rhai pobl eisoes wedi cael eu hapwyntiadau, bydd eraill yn dilyn.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich tro chi a ble mae angen i chi fynd. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiad. Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.
Mae meddygfeydd yn cynnig brechiadau ffliw i'r rhai sy'n gymwys. Cysylltir â chi pan ddaw eich tro.
Rydym ar y trywydd iawn i fod wedi cynnig apwyntiad i bawb yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot sy'n gymwys i gael brechiad ffliw am ddim erbyn diwedd mis Rhagfyr, yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru.
Mae brechu yn ddewis, ond rydym yn argymell yn gryf nad ydych yn oedi a'u cael pan gânt eu cynnig i helpu i amddiffyn eich iechyd a'r GIG y gaeaf hwn.
Lle bo’n bosibl, byddwch yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu’r hydref Covid a’r brechlyn ffliw ar wahân ar yr un pryd – un ym mhob braich. Mae hyn yn ddiogel, nid yw'n effeithio ar sut mae'r brechlynnau'n gweithio ac mae'n eich arbed rhag dod yn ôl am ail apwyntiad.
Pam fod mwy o frechiadau'n cael eu cynnig?
Mae Covid yn dal i gylchredeg ac rydym yn disgwyl i achosion godi y gaeaf hwn. Wrth i'r imiwnedd rhag brechlynnau leihau dros amser, mae'n bwysig cael y pigiad atgyfnerthu Covid hyd yn oed os ydych chi wedi cael yr holl frechlynnau Covid eraill neu wedi cael Covid ac wedi profi salwch ysgafn.
Os ydych chi wedi methu dos atgyfnerthu Covid blaenorol, dim ond dos atgyfnerthu’r hydref fydd ei angen arnoch chi. Mae'r pigiad atgyfnerthu yn atgoffa'ch system imiwnedd i baratoi ar gyfer y bygythiad, gan leihau'r siawns o haint a darparu lefel uchel o amddiffyniad rhag salwch difrifol rhag Covid, a allai arwain at arhosiad yn yr ysbyty.
Mae gwyddonwyr yn edrych ar ba fathau o ffliw sydd wedi bod yn cylchredeg yn hemisffer y de, felly gall y straen yn y brechlyn orchuddio'r rhai sy'n cylchredeg yma y gaeaf hwn. Mae Awstralia wedi gweld cynnydd mewn Covid a ffliw, sy'n cael ei ystyried yn arwydd y gallem hefyd gael gaeaf gwael.
Pwy all gael y brechlynnau?
Bydd y rhai sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn atgyfnerthol Covid yr hydref hefyd yn cael cynnig brechiad ffliw ar wahân, ynghyd â rhai eraill a fydd yn derbyn y brechiad ffliw yn unig.
Y rhai sy'n gymwys yw:
• Menywod beichiog
• Pobl 50 oed a throsodd
• Pobl â chyflwr iechyd hirdymor (o chwe mis ar gyfer y ffliw a phump oed ar gyfer Covid)
• Pobl sy'n byw mewn cartref gofal
• Pobl ag anabledd dysgu
• Pobl ag afiechyd meddwl difrifol
• Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan (o chwe mis ar gyfer ffliw a phump oed ar gyfer Covid)
• Gofalwyr 16 oed a throsodd
• Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
• Yr holl staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Ffliw yn unig:
1. Bydd plant dwy a thair oed yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn gan eu meddygfa.
2. Bydd disgyblion ysgol o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol.
Nid ydym yn gadael neb ar ôl. Felly os ydych chi heb derbyn brechlyn Covid cyntaf neu ail, cysylltwch â'n tîm archebu ar 01792 200492 neu 01639 862323, rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.