Mae’r gwaith o gyflwyno brechlyn atgyfnerthu’r hydref Covid yn dechrau heddiw (dydd Iau, Medi 1af) yng Nghymru.
Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gwahodd i'w gael yr hydref hwn.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich tro chi a ble mae angen i chi fynd. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiad.
Byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.
Os ydych chi'n gymwys, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gael y pigiad atgyfnerthu mewn un lleoliad.
Gallai hyn fod yn un o’n canolfannau brechu lleol (Canolfan Gorseinon neu Ganolfan Siopa Aberafan), fferyllfa gymunedol neu eich meddygfa.
Bydd rhai pobl eisoes wedi derbyn eu hapwyntiadau, bydd eraill yn dilyn.
Os byddwch yn derbyn llythyr ac yn dymuno newid neu ganslo eich apwyntiad, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y llythyr.
Bydd brechwyr yn ymweld â phreswylwyr mewn cartrefi gofal a'r rhai sy'n gaeth i'r tŷ.
Os ydych chi’n colli pigiad atgyfnerthu byddwch yn symud ymlaen i dderbyn eich pigiad atgyfnerthu hydref yn unig, gan y bydd hyn yn ddigon i gynyddu eich amddiffyniad.
Bydd hwb yr hydref Covid yn cefnogi imiwnedd y rhai sydd fwyaf mewn perygl o’r clefyd, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol a helpu i amddiffyn y GIG yn ystod yr hyn sy’n debygol o fod yn aeaf heriol arall.
Bydd y rhai sy’n gymwys ar gyfer y pigiad atgyfnerthu hefyd yn cael cynnig brechiad ffliw ar wahân, ynghyd â rhai eraill a fydd yn cael y brechiad ffliw yn unig.
Y rhai sy'n gymwys yw:
• Merched beichiog
• Pobl 50 oed a throsodd
• Pobl â chyflwr iechyd hirdymor (o chwe mis ar gyfer y ffliw a phump oed ar gyfer Covid)
• Pobl sy'n byw mewn cartref gofal
• Pobl ag anabledd dysgu
• Pobl ag afiechyd meddwl difrifol
• Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan (o chwe mis ar gyfer ffliw a phump oed ar gyfer Covid)
• Gofalwyr 16 oed a throsodd
• Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
• Yr holl staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Ffliw yn unig
1. Bydd plant dwy a thair oed yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn gan eu meddygfa.
2. Bydd disgyblion ysgol o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael cynnig y brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn yr ysgol.
Nid ydym yn gadael neb ar ôl. Felly os ydych chi'n methu brechlyn Covid cyntaf neu ail, cysylltwch â'n tîm archebu ar 01792 200492 neu 01639 862323, rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.