Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles Staff

Logo ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles Staff

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles Staff yn dîm integredig o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n anelu at gefnogi gweithwyr a gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyda'u hiechyd a'u lles. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gydag iechyd cyhyrysgerbydol ac emosiynol yn y gweithle.

Rydym yn cynnig apwyntiad Cyswllt Cychwynnol i drafod eich anghenion lles cyfredol, a gallwn gynnig cyfeiriadau, mynediad at adnoddau defnyddiol a chefnogaeth gan un o'n cynghorwyr hyfforddedig.

Angen siarad? Cysylltwch â ni. Dilynwch y ddolen hon i gael manylion cyswllt y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Lles Staff.

Dydd Llun - Dydd Gwener 9-5pm - 01792 703610 (bydd gwasanaeth ffôn ateb yn gweithredu y tu allan i'r oriau hyn)

Neu e-bostiwch ni ar: Sbu.staffwellbeing@wales.nhs.uk  

Dilynwch ni ar Twitter - @SBUHBWellbeing

Mae mwy o wybodaeth ar y tudalennau Lles Staff ar y Fewnrwyd.

A yw eich ymholiad am apwyntiad Iechyd Galwedigaethol? Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen hon.

Heb ddod o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano? Cysylltwch â'r manylion cyswllt uchod. Fel arall, gweler isod gyfeiriadau at wasanaethau a allai fod o fudd i chi.

Os hoffech weld y Cyflwyniad Gwydnwch Gaeaf Staff, dilynwch y ddolen hon i'n sianel YouTube.

I gyrchu fersiwn PDF y gellir ei hargraffu o'r adnoddau sydd ar gael i staff BIPBA, dilynwch y ddolen hon.

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni ddim ar gael yn y Gymraeg.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.