Neidio i'r prif gynnwy

Panel Goruchwylio

Dyma’r unigolion sy’n eistedd ar y Panel Goruchwylio – yr haen lywodraethu ychwanegol sy’n cynnal proses sicrwydd barhaus ac yn darparu craffu annibynnol i sicrhau bod yr Adolygiad yn cael ei gwblhau yn unol â’i Gylch Gorchwyl:

  • Cadeirydd Dros Dro: Dr Denise Chaffer CBE, Arweinydd Nyrsio Clinigol Gweithredol / Mamolaeth Diogelwch Cleifion gyda dros 15 mlynedd o Brofiad Lefel y Bwrdd Cyfarwyddwr Gweithredol.
  • Sarah Land, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Elusen PEEPS HIE (Enseffalopathi Isgemia Hypocsig).
  • Mr Tony Kelly, Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol Cydweithrediaeth Diogelwch Cleifion Kent Surrey & Sussex. Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Brighton a Sussex.
  • Dr Edile Murdoch - Newydd-anedig Ymgynghorol, Cadeirydd grŵp adolygu digwyddiadau andwyol sylweddol rhwydwaith amenedigol yr Alban a grŵp canlyniadau mamolaeth a newyddenedigol NHSE.

Bywgraffiadau

Cadeirydd Dros Dro, Denise Chaffer:

Delwedd o Denise Chaffer. Rwy’n Arweinydd Nyrsio Clinigol Gweithredol/Diogelwch Cleifion Mamolaeth gyda dros 15 mlynedd o Brofiad Lefel y Bwrdd Cyfarwyddwr Gweithredol. Mae hyn yn cynnwys gweithio i Ddarparwyr, Comisiynwyr, dwy Ymddiriedolaeth Acíwt, Ysbyty Addysgu Llundain a rôl genedlaethol ddiweddar ar gyfer Diogelwch Cleifion. Roeddwn hefyd yn Gyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer y Cynllun Hysbysu’n Gynnar (ENS) mewn mamolaeth a’r cynllun cymell mamolaeth y Cynllun Esgeulustod Clinigol i Ymddiriedolaethau (CNST). Cyn hynny roeddwn yn Llywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) rhwng Gorffennaf 2021 a Rhagfyr 2022.

Mae gen i brofiad sylweddol o weithio ar lefel ryngwladol, genedlaethol a rhanbarthol mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Mae fy mhrofiad yn cwmpasu meysydd nyrsio, bydwreigiaeth, addysg, llywodraethu, risg glinigol a hefyd ar fentrau newid ac ad-drefnu mawr. Mae gen i PhD a gradd Meistr mewn Rheolaeth a Gofal Cymdeithasol ac rwyf hefyd wedi ennill gradd Baglor ynghyd â chymhwyster Addysgu Addysg Uwch.

Rwyf wedi cyhoeddi ystod o adnoddau dysgu ar gyfer mamolaeth, diwylliant cyfiawn a dysgu a gofal brys. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi llyfr yn 2016 o’r enw “Effective Leadership – A Cure for the NHS?” ac wedi cyfrannu at bennod yn ymdrin â Diogelwch Cleifion ar gyfer y “Clinical Negligence 6th Edition” a gyhoeddwyd yn 2023 (Powers & Barton).

 

Sarah Land, PEEPS HIE:

Delwedd o Sarah Land.  Mae PEEPS HIE yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi unrhyw un yn y DU yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad Enseffalopathi Isgemia Hypocsig (digwyddiad HIE). Sefydlwyd Peeps yn 2018 gan Sarah a Steve Land. Daeth yr enw gan ffrindiau a gyfeiriodd yn annwyl at eu merch Heidi fel “Heidi-Peeps”. Cymhlethwyd genedigaeth Heidi ym mis Mawrth 2015 gan ddigwyddiad HIE ac ar ôl hynny teimlai Sarah a Steve Land fod bwlch o ran cefnogaeth ac ymwybyddiaeth.

Mae’r Elusen yn ymfalchïo mewn cydweithio, gweithio gyda’n gilydd, cefnogi, rhannu syniadau, cyfeirio gydag unigolion a grwpiau o’r un anian, i gynnig cymaint o help a gwybodaeth â phosibl i’r rhai a all fod ei angen, codi ymwybyddiaeth, a sicrhau bod llais rhieni’n cael ei glywed.

Dyma rai o’r bobl a’r sefydliadau y mae PEEPS HIE wedi gweithio gyda nhw hyd yma:

Dilynwch y ddolen hon i wefan Cynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod.

Dilynwch y ddolen hon i wefan yr Ymgyrch dros Genedigaethau Mwy Diogel.

Dilynwch y ddolen hon i wefan y Cyngor Plant Anabl.

Dilynwch y dudalen hon i wefan Little Journey.

Dilynwch y ddolen hon i dudalen Grŵp Cynghori Lleisiau Mamolaeth Hysbysu’n Gynnar y GIG.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Rhwydwaith Cyflawni Gweithredol Newyddenedigol y Gogledd Orllewin.

Dilynwch y ddolen hon i wybodaeth am y Rhwydwaith Elusennau Beichiogrwydd a Babanod, mewn fformat PDF.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Elusen Spoons.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Elusen Stick 'n' Step.

Dilynwch y ddolen hon i wefan swyddogol Adolygiad Annibynnol Ockenden i Wasanaethau Mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham.

Gellir gweld y tîm y tu ôl i Peeps yma.

 

Tony Kelly:

Delwedd o Tony Kelly.  Fi yw'r Cynghorydd Arbenigedd Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen Mamolaeth a Newyddenedigol yn GIG Lloegr. Rwyf wedi bod yn gweithio ar lefel genedlaethol ers 2016 ac wedi cael profiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid ar draws y system amenedigol gyfan. Rwyf wedi arwain a chefnogi rhaglenni gwaith sy'n ymwneud â datblygu'r offeryn sgôr rhybudd cynnar cenedlaethol newydd ar gyfer mamolaeth a'r rhaglen diwylliant ac arweinyddiaeth genedlaethol.

Cyn hynny roeddwn yn Gyfarwyddwr y Gydweithredfa Diogelwch Cleifion yn Rhwydwaith Gwyddor Iechyd Academaidd KSS am ddwy flynedd. Cyn hyn rwyf wedi gweithio mewn capasiti rhanbarthol ar wella ansawdd ers nifer o flynyddoedd. Rhwng 2010 a 2014 fi oedd y Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ansawdd ac Arloesedd yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Brighton a Sussex. Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes effeithiolrwydd clinigol a gwella ansawdd ers dros 25 mlynedd, ac yn benodol o fewn diogelwch ac ansawdd am y 15 mlynedd diwethaf.

Rwy’n glinigwr yn y bôn ac rwyf wedi bod yn Obstetrydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol yn Ysbytai Prifysgol Sussex yn Brighton ers 2003. Rwy’n un o nifer o obstetryddion sy’n darparu gofal intrapartum risg uchel.

 

Edile Murdoch:

Delwedd o Edile Murdoch. Mae Edile Murdoch yn neonatolegydd ymgynghorol gyda 23 mlynedd o brofiad yn GIG Lothian Caeredin a chyn hynny yn ysbyty Addenbrooke, Caergrawnt ac UCLH Llundain. Mae hi wedi bod yn gyfarwyddwr clinigol gwasanaethau obstetrig a newyddenedigol yn GIG Lloegr a’r Alban ac yn arweinydd rhwydwaith newyddenedigol. Mae Edile wedi datblygu corff o brofiad mewn adolygiadau gwasanaeth a diogelwch allanol, adolygu digwyddiadau niweidiol amenedigol, rheoli a gwella ac mae’n cadeirio grŵp canlyniadau mamolaeth a newyddenedigol “darllen y signalau” GIG Lloegr. Mae'n cadeirio grŵp adolygu digwyddiadau andwyol rhwydwaith amenedigol yr Alban yn dilyn cyhoeddi'r broses adolygu digwyddiadau andwyol (amenedigol) mamolaeth a newyddenedigol: canllawiau 2021. Mae Edile yn asesydd newyddenedigol ar gyfer ymholiadau cyfrinachol MBRRACE-UK ac mae'n rhan o grŵp datblygu ailgynllunio SAI NI DOH. Ei diddordeb clinigol arbenigol yw gofal lliniarol amenedigol ac mae’n cyd-gadeirio gweithgor gofal lliniarol amenedigol BAPM. Cyd-ysgrifennodd Edile y llwybrau marw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol ar gyfer Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol yr Alban. Mae'n diwtor ar y rhaglen hyfforddi Cyfathrebu Effeithiol ar gyfer Iechyd (EC4H) ac mae'n gyfryngwr hyfforddedig.

Ewch yma i ddychwelyd i'r brif dudalen Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.

Dilynwch y ddolen hon i ymweld â'n prif dudalen adolygu annibynnol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.