Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu

Mae'r adolygiad annibynnol yn gweithio ar y cyd â Llais i sicrhau mewnbwn cryf gan ddefnyddwyr gwasanaeth i'r adolygiad. Fel rhan o hyn, bydd amrywiaeth o ddulliau’n cael eu mabwysiadu, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau, gweithdai, arolygon a chyfleoedd i gyflwyno adborth ysgrifenedig.

Fel rhan o'r dull hwn, cynhaliwyd cyfnod gwrando ar y Cylch Gorchwyl gyda gwahoddiad agored am adborth.

Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad ar-lein i ddefnyddwyr gwasanaeth ar 20fed Mai 2024.

Bydd cyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol yn cael eu hamlygu yma yn ogystal ag ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrifon X (Twitter) a Facebook y Bwrdd Iechyd.

Llais yn lansio prosiect i glywed eich llais ar ofal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe

Mae Llais, y corff annibynnol sy'n ymroddedig i gynrychioli buddiannau pobl Cymru, yn ceisio barn pobl sydd â phrofiad o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dilynwch y ddolen hon i ddatganiad i'r wasg Llais yn ein hadran newyddion.

Ewch yma i ddychwelyd i'r brif dudalen Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.

Dilynwch y ddolen hon i ymweld â'n prif dudalen adolygu annibynnol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.