Rheoli blinder
Efallai y byddwch yn profi blinder yn dilyn eich amser yn yr ysbyty ar ôl cael COVID-19. Mae hyn yn arferol ar ôl bod yn sâl gyda feirws neu gyflwr ar yr ysgyfaint.
Mae teimlo'n nerfus, yn bryderus neu'n ofnus hefyd yn deimladau cyffredin sy'n gysylltiedig â diffyg anadl a blinder.
Beth allwch chi ei wneud i'ch helpu'ch hun?
Wrth reoli lefelau eich egni, y peth pwysicaf i'w gofio yw peidio â gwneud gormod a pheidio â blino'ch hun yn llwyr. Gall y technegau canlynol eich helpu i reoli lefelau eich egni.
- Blaenoriaethu: Gwnewch restr o'r pethau yr hoffech chi eu cyflawni dros y dydd / wythnos. Rhestrwch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd i chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys cawod, gwisgo a bwyta gan fod y rhain i gyd yn defnyddio egni hefyd. Ar gyfer eich rhestr, gofynnwch i chi eich hun: Beth sydd angen ei wneud? Beth sy'n bwysig i mi wneud fy hun? A gaf i ofyn i rywun arall helpu? I bwy alla' i ofyn am help?
- Cynllunio: Defnyddiwch gynllunydd wythnos gyda slotiau amser ar gyfer bob dydd a thros yr wythnos er mwyn trefnu'r gweithgareddau hyn. Mae'r un mor bwysig gorffwys ac ymlacio. Mae hyn yn bwysig er mwyn osgoi gwneud gormod neu wneud rhy ychydig.
- Cyflymder: Mae rhuthro i gwblhau tasgau fel y gallwch ddychwelyd i orffwys yn wrthgynhyrchiol. Mae arafu a gwneud pethau'n raddol yn defnyddio llai o egni felly byddwch chi'n gallu bod yn fwy egnïol am gyfnod hirach o amser. Mae hyn yn berthnasol wrth symud, siarad a bwyta.
- Gwnewch eich gweithgareddau'n llai heriol: Mae gwneud gweithgareddau'n haws yn arbed egni wrth fod yn annibynnol, er enghraifft aildrefnu'r pethau sydd o'ch cwmpas i gael eitemau o fewn cyrraedd, sef rhwng uchder yr ysgwydd a'r glun, ac eistedd i lawr i gwblhau tasgau.
Ewch i'r wefan hon i gael gwybodaeth am arbed egni yn dilyn COVID-19.
(Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)
Ewch i'r wefan hon i gael rhai awgrymiadau defnyddiol ar reoli blinder.
(Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)