Os ydych wedi bod yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID-19, gallai gael effaith ar eich lles seicolegol. Gall hyn fod yn negyddol, ond gwelwyd tystiolaeth ei fod yn gadarnhaol hefyd.
Efallai eich bod wedi cael profiadau o gael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid tra oeddech chi yn yr ysbyty, neu efallai i chi fod yn ddryslyd neu'n anymwybodol tra oeddech chi'n cael eich trin. Gall y pethau hyn hefyd gael effaith ar les seicolegol.
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi helpu i reoli/gwella eich hwyliau. Rydym wedi amlinellu rhai ffyrdd isod, ond mae pawb yn wahanol ac efallai bod gennych eich dewisiadau eich hun.
Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac mae'n naturiol teimlo'n bryderus. Gall pryder gael ei amlygu mewn sawl ffordd yn gorfforol ac yn feddyliol, gall hyn gynnwys calon-guriadau, tyndra yn y cyhyrau, problemau gyda'r stumog, gor-anadlu, meddyliau pryderus, cwsg gwael a llawer o symptomau eraill.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau pryder:
Os ydych chi'n teimlo'n bryderus bydd eich anadl yn cyflymu a gall hyn achosi pwl o banig. Mae pwl o banig yn deimlad llethol o berygl/straen a achosir yn aml gan sbardun. Pan fyddan nhw dan straen, mae ein cyrff yn ymateb er mwyn ein amddiffyn ein hunain rhag y perygl y credwn ni sydd yno. Ymateb 'ymladd neu ffoi' neu 'rewi' yw hwn pan fydd ein cyrff yn rhyddhau adrenalin. Fel arfer pan fydd pyliau o banig yn digwydd, nid oes unrhyw berygl corfforol. Mae pawb yn profi pyliau o banig mewn ffordd wahanol ond teimlad cyffredin yw'r teimlad o gael trawiad ar y galon - ond nid ydych chi'n cael trawiad.
Efallai y byddwch chi'n profi'r teimladau canlynol yn ystod pwl o banig: y galon yn curo'n gyflym, poenau yn y frest, newidiadau mewn patrwm anadlu, teimlo'n fyr eich anadl, curo yn y pen, teimlo'n benysgafn, teimlo braw, teimlo'n bryderus, teimlo'n boeth, chwysu, teimlad o dagu, y stumog yn corddi.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dioddef o hwyliau isel ar wahanol adegau yn eu bywyd. Gall hyn fod o ganlyniad i ddigwyddiad neu bethau nad ydynt yn mynd y ffordd a gynlluniwyd gennym. Mae'r teimladau hyn fel arfer yn tawelu o fewn pythefnos er y gall hyn fod yn hirach ar ôl profi digwyddiad trawmatig neu fod yn sâl. Mae hwyliau isel ac iselder ysbryd yn wahanol. Gall teimladau o hwyliau isel ddatblygu'n iselder os na roddir sylw iddynt.
Gellir dod o hyd i adnoddau ar gyfer ymlacio ar wefan Mind.
Pob gwefan Saesneg yn unig.
Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys sy'n cael ei bostio ar wefannau allanol.
Ewch i wefan Getselfhelp i gael adnoddau hunangymorth a therapi CBT (therapi ymddygiad gwybyddol).
Ewch i wefan Mental Health Matters Wales i gael gwybodaeth a chefnogaeth.
Ewch i'r sianel YouTube hon i gael cerddoriaeth ymlaciol.
Ewch i wefan Headspace i gael offer ac adnoddau i ofalu am eich iechyd meddwl.
Ewch i blatfform iechyd meddwl Unmind i gael help gydag iechyd meddwl yn y gwaith.
Ewch i wefan CALM i gael awgrymiadau a mwy.
Ewch i wefan Mind i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl.