Mae plant yn debygol o brofi ystod eang o emosiynau pan fydd rhywun agos atynt wedi bod yn yr ysbyty. I rai plant gallai hyn gynnwys pryder, hwyliau isel neu ofid, ac efallai i bethau fod yn eithaf dryslyd iddyn nhw. Efallai eich bod hefyd wedi sylwi ar newid yn ymddygiad eich plentyn (er enghraifft, newidiadau i'w harferion cysgu neu'n ymlynu'n fwy wrthych chi). Ar yr adeg anodd hon, mae'n bwysig sicrhau bod plant yn cael eu cynnwys ac yn derbyn gwybodaeth. Rydym wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth i gefnogi hyn isod.
(Dogfennau allanol yw hyn, a nad ydynt ar gael yn y Gymraeg.)
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.