Neidio i'r prif gynnwy

Covid-19 - Pecyn cymorth pobl ifanc

Covid-19

Pecyn cymorth ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed

Ydych chi'n berson ifanc sy'n ffeindio'r pandemig yn amser anodd? Gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn ffeindio'r sefyllfa bresennol yn heriol, mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy'n hyrwyddo'r nifer o offer digidol sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi pobl ifanc â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol.

Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl y Person Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy i adeiladu gwytnwch a'u cefnogi trwy'r pandemig Coronavirus a thu hwnt. Mae'r dyluniad syml yn galluogi defnyddwyr i reoli eu hiechyd meddwl trwy gyfrwng sy'n addas iddyn nhw, gyda gwybodaeth, hunangymorth, a chyngor ar sut i geisio cefnogaeth bellach wedi'i hymgorffori drwyddi draw.

Gallwch gyrchu'r pecyn cymorth trwy glicio yma.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.