Efallai eich bod wedi cael eich cyfeirio i'r PPS gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i ystyried pigiad. Gall pigiadau fod yn opsiwn a drafodir gyda chi os oes gennych un maes penodol o boen yr ydych wedi dioddef am dros blwyddyn a bod yr holl opsiynau eraill o reoli poen wedi'u hystyried.
A yw pigiadau yn iachâd i'm poen?
NID yw pigiadau yn iachâd i'ch poen ac mae angen i chi ystyried efallai na fyddwch yn ennill unrhyw fudd ohonynt. Nid oes tystiolaeth gref o blaid nac yn erbyn therapi pigiad ar gyfer poen cefn parhaus (Cochrane Review, 2011). Oherwydd y diffyg tystiolaeth er budd parhaol pigiadau, dim ond ychydig o bigiadau y gall y PPS eu cynnig i'r rhai sy'n cwrdd â meini prawf.
Beth fydd pigiad yn ei olygu?
Mae Cymdeithas Poen Prydain yn cynghori mai dim ond wrth eu cyfuno â strategaethau hunanreoli eraill ar gyfer gwella ansawdd bywyd y cynhelir pigiadau. Bydd hyn yn golygu, os penderfynwch fwrw ymlaen â chael pigiad, bydd gofyn i chi hefyd ymarfer yn rheolaidd gydag arweiniad gan ein ffisiotherapydd a mynychu apwyntiadau dilynol fel y gellir asesu eich cynnydd. Dyluniwyd y gefnogaeth ychwanegol hon i'ch helpu i ganolbwyntio ar wella'ch galluoedd corfforol a'ch cefnogi chi i ymgysylltu â gweithgareddau bywyd bob dydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.