Mae canolbwynt prawf gwaed cymunedol newydd wedi agor yng Nghanolfan Adnoddau Port Talbot, Moor Road, Baglan, drws nesaf i archfarchnad Morrisons.
Mae'n ychwanegol at glinigau prawf gwaed cleifion allanol yn ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae clinig prawf gwaed cymunedol dros dro arall hefyd wedi agor yn y Clinig Canolog, Stryd y Berllan, Abertawe - ar ddydd Mawrth a dydd Iau i ddechrau - tra bod y bwrdd iechyd yn chwilio am leoliad prawf gwaed parhaol yng nghanol y ddinas.
Bydd Ysbyty Gorseinon yn dechrau cynnig profion gwaed eto o'r hydref.
Rhaid archebu POB apwyntiad ar-lein neu dros y ffôn 01792 601807, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm.
Gofynnir i gleifion beidio â chyrraedd mwy na phum munud cyn amser eu hapwyntiad. Rhaid iddynt hefyd ddod â ffurflen waed gyda nhw i'r clinigau fel bod staff yn gwybod pa brofion gwaed sydd eu hangen arnynt.
Mae'r newidiadau yn rhan o gynllun bwrdd iechyd hirdymor i ddarparu profion gwaed arferol, fel y rhai y mae meddygon teulu yn gofyn amdanynt, mewn hybiau cymunedol ar draws ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a all ymdopi â'r galw enfawr.
Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn darparu gwasanaeth prawf gwaed cyfyngedig i nifer fach o bractisau meddygon teulu yn Abertawe.
Wrth i'r hybiau cymunedol ddod ar-lein ac wrth i'r capasiti ynddynt gynyddu, bydd staff prawf gwaed y bwrdd iechyd a neilltuwyd ar hyn o bryd i bractisau meddygon teulu Abertawe yn cael eu hadleoli i'r hybiau.
Mae canolbwyntio ein staff yn y canolfannau hyn yn ein galluogi i gynyddu capasiti a chreu mwy o apwyntiadau.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd.
Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod rhai practisau meddygon teulu yn defnyddio eu staff eu hunain i gymryd gwaed. Mae’r gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth a ddarperir gan y bwrdd iechyd.
Mae'r clinig prawf gwaed yn Ysbyty Maes y Bae wedi gorfod cau. Roedd y bwrdd iechyd wedi prydlesu’r adeilad dros dro ac rydym wedi gorfod ei roi yn ôl i’r landlord, Bay Studios, a datgomisiynu’r cyfleusterau. Mae staff wedi cael eu hadleoli.
Ar hyn o bryd mae clinig Canolfan Adnoddau Port Talbot yn rhedeg rhwng 8.30am a 3.45pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda chynlluniau i gynyddu capasiti.
Mae gan y ganolfan faes parcio ac mae lle parcio ychwanegol wedi ei glustnodi ym maes parcio Morrisons drws nesaf.
Dywedodd Mary Cole, 69, o Lansawel, yn y llun, fod y canolbwynt newydd mewn lleoliad defnyddiol.
Hefyd yn y llun mae Carol Ann Wickison.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.