Pam Chwarae?
Chwarae yw'r ffordd gyntaf, ac efallai y ffordd bwysicaf, i helpu'ch plentyn i ddysgu. Dyma'r ffordd y maent yn archwilio'r byd ac yn darganfod mwy amdanynt eu hunain. Mae chwarae'n cynnig cyfle i blant ymlacio, mynegi eu teimladau, profi llwyddiant a methiant ac arbrofi gyda symudiad corfforol.
Mae pob plentyn yn dysgu trwy chwarae ac archwilio ond gall rhai elwa ar fwy o gefnogaeth nag eraill. Cymerir yr awgrymiadau chwarae canlynol gan Early Support Wales, sef mecanwaith Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau ar gyfer plant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.
Beth wyt ti'n gallu gwneud?
Mae'r Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden yn elusen leol i Abertawe sy'n llogi teganau ac offer arbenigol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd. Bydd angen ffi aelodaeth fach ac mae'n adnodd gwych ar gyfer syniadau chwarae neu i 'roi cynnig arni cyn prynu' ac mae'n rhedeg rhai digwyddiadau a hyfforddiant gwych. Mae yna hefyd lawer o syniadau am weithgareddau gwych ar wefan Chwarae i Ddysgu Chwaraeon Cymru i helpu'ch plentyn i ddatblygu'r sgiliau echddygol pwysig sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd bob dydd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.