Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac amser bwyd

Mae'n naturiol i rieni boeni a yw eu plentyn yn cael digon o fwyd, yn enwedig os ydynt yn gwrthod bwyta weithiau. Mae NHS Choices yn cynghori i beidio â phoeni am yr hyn mae'ch plentyn yn ei fwyta mewn diwrnod, neu os nad ydynt yn bwyta popeth mewn pryd o fwyd.

Mae'n bwysicach meddwl am yr hyn maen nhw'n ei fwyta dros wythnos.

Cyn belled â bod eich plentyn yn egnïol ac yn magu pwysau, a'i fod yn amlwg nad yw'n sâl, yna mae nhw'n cael digon i'w fwyta, hyd yn oed os nad yw'n ymddangos yn debyg i chi.

Mae'n gwbl normal i blant bach wrthod bwyta neu hyd yn oed flasu bwydydd newydd. Cyn belled â bod eich plentyn yn bwyta bwyd o'r pedwar prif grŵp bwyd (llaeth a cynnyrch llaeth, bwyd sy'n cynnwys startsh, ffrwythau a llysiau, protein), hyd yn oed os mai dyma'r un ffefrynnau bob amser, nid oes angen i chi boeni. Cyflwyno bwydydd eraill yn raddol neu fynd yn ôl at y bwydydd nad oedd eich plentyn yn eu hoffi o'r blaen a rhoi cynnig arnynt eto.

Os yw pob pryd bwyd yn teimlo fel brwydr - gwrthod bwyd, taflu bwyd, arferion bwyta ffyslyd - ceisiwch dawelu ac ystyried y canlynol:

  • Ni fydd plentyn iach byth yn barod i lwgu ei hun os oes ganddynt fynediad at amrywiaeth o fwyd iach.
  • Cadwch siart am wythnos ac ysgrifennu bopeth y mae eich plentyn bach yn ei fwyta os ydych chi'n poeni. Mae'n debyg y cewch eich synnu gan faint y maent yn  bwyta.
  • Gall rhoi  atchwanegiadau fitamin fod yn ddefnyddiol os yw'ch plentyn yn bwyta'n wael iawn.
  • Nid oes gennych unrhyw beth i boeni amdano os ydynt yn tyfu'n gyson er gwaethaf chwant bwyd bach. Cadwch lygad ar eu pwysau a'u taldra i helpu i fonitro hyn.
  • Peidiwch â ildio i pob fympwy. Byddwch yn hyrwyddo bwyta ffyslyd os ydych chi'n parhau i gynnig gwahanol ddewisiadau bwyd nes eu bod yn derbyn un. Os ydych chi eisiau rhoi dewis o fwyd iddynt, peidiwch â rhoi mwy o ddewis na dau.
  • Cyfyngu ar fyrbrydau lle bo modd iddynt fel eu bod yn llwglyd yn ystod amser bwyd a byddant yn fwy parod i fwyta.
  • Ceisiwch fwyta gyda'ch plentyn bach - hyd yn oed os yw'n fyrbryd. Byddant yn fwy parod i eistedd a bwyta os oes ganddynt gwmni, a byddant yn dod i ddeall y gall bwyta fod yn weithgaredd cymdeithasol.
  • Cael prydau a byrbrydau ar adegau rhagweladwy a bwyta ac yfed wrth y bwrdd .
  • Cynnig dŵr i'w yfed rhwng prydau.
  • Gwnewch amser bwyd yn brofiad di-straen i blentyn. Mae straen yn lleihau archwaeth a bydd y plant yn osgoi amser bwyd os ydynt yn ei weld fel amser anodd.
  • Peidiwch â defnyddio pwdin fel gwobr . Mae hyn yn atgyfnerthu'r syniad o orfod bwyta “bwyd gwael” i gael “bwyd da”.
  • Mae'n iawn gadael bwyd.
  • Dylech gynnwys hoff bwydydd  ar bob pryd bwyd.
  • Gofynnwch i'ch plentyn gymryd rhan mewn cynllunio a pharatoi prydau fel sy'n briodol yn ddatblygiadol. Cynhwyswch nhw mewn: siopa, dewis bwydydd, paratoi a choginio bwydydd, gosod y bwrdd, gweini bwyd ac ati.
  • Gadewch i'ch plentyn ddewis y platiau a'r cwpanau y maent yn eu defnyddio adeg prydau bwyd. Bydd hyn yn helpu i wneud prydau bwyd yn fwy diddorol ac yn tynnu sylw oddi ar y bwyd.
  • Peidiwch â glanhau eu dwylo neu eu hwynebau, na'r bwrdd, tan ddiwedd y pryd. Mae angen at rai plant y cyfle i droi a chymysgu bwyd a'i roi ar hambwrdd y gadair fel paratoad ar gyfer bwyta. Mae symiau bach o chwarae bwyd yn briodol iawn i blant ifanc.

Os oes gennych chi bwytwr gwrthiannol iawn yn eich bwrdd, ailddiffiniwch “llwyddiant”. Mae plant yn cymryd risgiau ac yn dangos cynnydd pan fyddant yn gwneud unrhyw un o'r canlynol gyda bwydydd newydd: arogli, cyffwrdd, pigo gyda fforc, cyffwrdd â gwefusau, cyffwrdd â'r ên, neu llyfu.

Hyd yn oed goddef bwyd newydd yn yr un ystafell, neu ar y bwrdd yn llwyddiant. Mae'r holl weithgareddau hyn yn haeddu canmoliaeth fawr. Mae'n bwysig cydnabod y rhain fel arwyddion o lwyddiant, er nad ydynt wedi brathu.

Rydym wedi dewis rhai gwefannau y credwn y byddent yn ddefnyddiol ar gyfer gwybodaeth bellach. Cliciwch ar y dolenni isod:

Change4Life

Ffeithiau Bwyd BDA ar gyfer Cyngor Bwyta'n Iach

NHS Choices Fussy Eaters

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.