O 10fed Mawrth 2025 bydd famau beichiog a mamau newydd yn cael holiaduron gyda'r nod o ddarganfod mwy am eich profiadau yn ystod eich taith esgor, a'r gofal a gawsoch.
Rydym yn awyddus i ddysgu am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a lle y gellir gwella ein gofal neu ein gwasanaethau, a dyna pam yr ydym yn un o’r byrddau iechyd cyntaf i gynnig yr opsiwn hwn ar gyfer adborth.
Bydd negeseuon testun yn cael eu hanfon yn syth i'ch ffonau gyda dolenni i'r arolygon yn y cyfnodau allweddol hyn:
Mae'r arolygon ar gael yn Saesneg, Cymraeg, a hefyd y deg iaith a siaredir amlaf yng Nghymru. Rydym yn gobeithio rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl ymateb yn eu hiaith gyntaf.
Bydd eich ymatebion dienw yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan yr uwch dimau yn y gwasanaethau amenedigol, (amenedigol yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol). Bydd themâu a thueddiadau o'r ymatebion i'r arolwg yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau gwella, i sicrhau bod gwasanaethau'n datblygu'r ffordd y teimlwch y dylent.
Cadwch eich llygaid ar agor am eich arolygon a rhowch wybod i'ch bydwraig neu'ch clinig cyn geni os bydd eich rhif ffôn symudol yn newid.
Sylwch – gan y bydd eich ymatebion i’r arolwg yn ddienw, ni fyddwn yn gallu ymateb yn uniongyrchol i chi am unrhyw fater a godwyd. Os oes gennych bryder yr hoffech ei godi gyda ni yn uniongyrchol - ac yr hoffech i ni ymateb iddo - ewch yma i weld yr opsiynau ar gyfer codi pryder.
Mwy o wybodaeth
Rydym yn gweithio ar y cyd â Gweithrediaeth GIG Cymru, ac mae’r arolygon wedi’u datblygu fel rhan o’r fframwaith ymgysylltu amenedigol a gyhoeddwyd yn ddiweddar a welwch yma .
Mae hyn yn rhan o gyfres o ddogfennau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eleni, gyda’r nod o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau amenedigol yng Nghymru.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.