Mae'r Ganolfan Geni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot yn ailagor ar 16eg Medi, ar ôl saib o dair blynedd yn y gwasanaeth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd yn ailgyflwyno ei Wasanaeth Geni Gartref o 21ain Hydref.
Os ydych yn feichiog ac yn dymuno defnyddio Canolfan Geni Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, cofiwch gysylltu â'r ganolfan ar 01639 862103 cyn mynychu.
17/09/2024: Datganiad newyddion - Y babi cyntaf a aned wrth i Canolfan Geni Castell-nedd Port Talbot ail-agor
Mae’r Gwasanaeth Geni Gartref yn cael ei ailgyflwyno o 21ain Hydref 2024.
Os hoffech drafod unrhyw beth am eich opsiynau geni, cysylltwch â'ch tîm cymunedol, dylai'r rhifau ar gyfer y timau fod ar eich cofnod mamolaeth neu gallwch ddilyn y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.