Neidio i'r prif gynnwy

Pryderon yn ystod eich beichiogrwydd?

Os oes gennych bryderon yn ystod eich beichiogrwydd - fel poen anesboniadwy, neu newidiadau yn symudiadau'r babi - rhaid i chi roi gwybod i ni. Mae ein gwasanaeth Brysbennu Mamolaeth yma i chi ddydd neu nos. Cysylltwch â llinell gyngor AAU Mamolaeth Bae Abertawe: 01792 286111

Byddwn yn sicrhau bod menywod a phobl feichiog yn cael eu gweld yn ôl angen clinigol, fel bod y rhai sydd â’r angen mwyaf brys am ein gofal yn cael eu gweld yn gyntaf.

Ein nod yw gweld pawb sy'n mynychu AAU Brysbennu Mamolaeth Bae Abertawe o fewn 15 munud, i gael asesiad cychwynnol.

Unwaith y bydd bydwraig wedi eich asesu, efallai y cewch eich blaenoriaethu ar gyfer gwiriadau, ymchwiliadau a gofal parhaus; neu efallai y gofynnir i chi aros am ychydig. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â'ch anghenion clinigol unigol.

Byddwch yn amyneddgar os gofynnir i chi aros. Mae ein system yn ein helpu i flaenoriaethu diogelwch menywod, pobl feichiog a babanod yn ein gofal.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.