Neidio i'r prif gynnwy

Ward Esgor (Ysbyty Singleton)

DIWEDDARIAD YMWELIAD COVID-19: Sylwch fod ein rheolau ynghylch ymweliadau ysbyty wedi newid. I gael y canllawiau diweddaraf ar ein rheoliadau ymweld, ewch i'r dudalen hon.

Lluniaeth

Gofynnwn eich bod yn osgoi defnyddio ein ffreuturau ar hyn o bryd. Mae yna beiriannau gwerthu ar gael ar ein safleoedd os oes angen lluniaeth arnoch.

Nodwch fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnal polisi dim goddefgarwch ar gyfer unrhyw ymddygiad camdriniol tuag at staff oherwydd amrywiaethau mewn canllawiau ymweld ar gyfer grwpiau cleifion gwahanol. 

Dolenni Defnyddiol

Ewch i dudalen Facebook Gwasanaethau Mamolaeth Bae Abertawe.

Cwrs cyn-geni ar-lein

AM DDIM ar draws Cymru. Ar gyfer pawb o gwmpas y babi: Mamau, Tadau, Neiniau a Theidiau, ffrindiau a pherthnasau

Deall eich beichiogrwydd, yr esgor, yr enedigaeth a'ch babi - Ar gael 24/7

Am fwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at y cwrs cyn-geni ar-lein am ddim, dilynwch y ddolen hon.

Croeso i'r Ward Esgor yn Ysbyty Singleton.

Yma mae gennym yr ystod lawn o gyfleusterau o ystafelloedd geni - mae gan un ohonynt bwll geni - i theatrau obstetrig llawn offer.

Byddwch chi a'ch babi yn derbyn gofal gan ystod o weithwyr iechyd proffesiynol; o fydwragedd i feddygon arbenigol.

Pe bai'ch babi yn cael ei eni'n gynnar neu pe byddai angen cefnogaeth ychwanegol arno, mae ein huned newyddenedigol yn agos.

Os ydych chi a'ch babi yn iach, gallwch fynd adref ychydig ar ôl yr enedigaeth a bydd ein bydwragedd cymunedol yn eich cefnogi.

Os oes angen gofal ychwanegol arnoch chi a'ch babi, cewch gefnogaeth ar y ward ôl-enedigol.

Ewch i'r dudalen hon i ddarllen mwy am ein gwasanaethau ar gyfer babanod newydd-anedig.

Angen cymorth pellach? Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i daflen penderfyniad ynghylch mannau geni. Sylwch: Gan fod y daflen wedi’i pharatoi gan Kings College, nid yw ar gael yn y Gymraeg.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth ymweld

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.