Comisiynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) adolygiad annibynnol o’i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym mis Rhagfyr 2023 er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn y gofal sy’n cael ei ddarparu.
Mae’r adolygiad annibynnol yn cael ei oruchwylio gan Banel Goruchwylio, a gaiff ei gadeirio gan unigolyn sy’n annibynnol ar y Bwrdd Iechyd ac nad oes ganddo gysylltiad ag ef. Y Cadeirydd dros dro bellach yw Dr Denise Chaffer, bydwraig brofiadol a chyn Lywydd y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Mae’r Panel Goruchwylio yn haen ychwanegol o lywodraethu a’i rôl yw cynnal proses sicrwydd barhaus a darparu craffu annibynnol i sicrhau bod yr Adolygiad yn cael ei gwblhau yn unol â’i Gylch Gorchwyl.
Bydd y Panel Goruchwylio hefyd yn goruchwylio gweithrediad unrhyw argymhellion a wneir gan yr Adolygiad gan y Bwrdd Iechyd.
Daw’r Adolygiad mewn tair rhan:
Cefnogir yr Adolygiad gan arweinydd ymgysylltu a fydd yn sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaeth a staff yn cael eu clywed drwy gydol y broses adolygu.
Mae Llais, y corff eirioli cleifion, hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r adolygiad, gan gynnal ei broses ymgysylltu ei hun gyda theuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi'i dylunio i gasglu ystod o adborth ar y gwasanaeth y gellir ei fwydo wedyn i'r adolygiad. Os hoffech gysylltu â Llais, gallwch wneud hynny drwy e-bostio maternityexperience@llaiscymru.org
Mae Panel Goruchwylio’r Adolygiad Annibynnol wedi datblygu a mireinio ei Gylch Gorchwyl, gyda mewnbwn uniongyrchol gan deuluoedd, staff ac arbenigwyr eraill yn y maes.
Mae’r adolygiad ei hun bellach ar y gweill a bydd diweddariadau cynnydd yn cael eu darparu’n rheolaidd dros y misoedd nesaf gan gynnwys sut mae’r adolygiad yn ymgysylltu â theuluoedd a staff.
Bellach mae gan yr adolygiad ei wefan ei hun sy'n gwbl ar wahân i hyn, gwefan y Bwrdd Iechyd. Ewch yma i gael mynediad i wefan bwrpasol yr adolygiad ei hun.
Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl cyhoeddedig, strwythur yr adolygiad, aelodaeth y Panel Goruchwylio a'r timau adolygu clinigol i gyd drwy'r panel llywio ar ochr chwith y dudalen hon.
Ewch yma i ddychwelyd i'r brif dudalen Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.