Ydych chi'n derbyn gofal cleifion allanol ar hyn o bryd, neu ar fin ei dderbyn?
Ydych chi eisiau mynediad at eich gwybodaeth iechyd ar flaenau eich bysedd? Rheoli eich gofal iechyd o gysur eich cartref eich hun? Cael ystod o ganlyniadau profion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i'ch ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur personol? Teimlo'n fwy cysylltiedig ac mewn rheolaeth?
Mae Porth Cleifion Bae Abertawe yn wasanaeth ar-lein diogel sy'n rhoi mynediad i chi at eich gwybodaeth iechyd, ac mae'n gyfleus - gallwch ei gyrchu unrhyw bryd ac unrhyw le.
Gall hefyd ddarparu llyfrgell o adnoddau gwybodaeth i chi fel gwefannau, taflenni, ffeiliau sain a fideos a ddarperir gan eich clinigwyr.
Gallwch hefyd uwchlwytho eich manylion eich hun, er enghraifft diagnosis, alergeddau, meddyginiaethau, symptomau, a mesuriadau fel darlleniadau pwls a phwysedd gwaed.
Mae Porth Cleifion Bae Abertawe yn cynnig ystod wych o gyfleoedd i chi hunan-fonitro eich cyflwr, ac mewn llawer o achosion gallwch hefyd *negyddu gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch gofal yn uniongyrchol.
Gallwch hefyd rannu rhywfaint neu'r cyfan o'ch gwybodaeth iechyd ag aelodau'r teulu, gofalwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd angen ei gweld.
Unwaith y byddwch yn cofrestru ar Borth Cleifion Bae Abertawe bydd gennych amrywiaeth eang o wybodaeth glinigol ac adnoddau i gefnogi eich iechyd a lles - ar gael yn eich poced.
Archwiliwch y dudalen we hon i ddarganfod mwy, a sut y gallwch gofrestru ar gyfer Porth Cleifion Bae Abertawe.
*Sylwer: Efallai na fydd negeseuon uniongyrchol ar gael mewn rhai gwasanaethau – holwch eich tîm clinigol yn gyntaf.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Polisi Preifatrwydd Porth Cleifion Bae Abertawe.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.