Gan fod sgîl-effeithiau yn rhan ddisgwyliedig o driniaeth radiotherapi, mae gennym dîm bach o radiograffwyr sydd wedi arbenigo mewn rôl i gynghori ac arwain cleifion trwy driniaeth os/pan fydd y sgîl-effeithiau hyn yn digwydd.
Bydd y tîm adolygu'n gweld cleifion yn ystod eu triniaeth radiotherapi, weithiau bob yn ail â'r meddyg, a bydd yn cynnig unrhyw awgrymiadau ar ffyrdd o reoli sgîl-effeithiau neu o bosibl rhagnodi neu argymell meddyginiaethau a all helpu.
Bydd y radiograffwyr triniaeth yn rhoi gwybod i gleifion pan fyddant wedi'u hamserlennu i weld y tîm adolygu yn ystod y driniaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.