Bwriad y cyngor hwn yw eich arwain yn ôl at rygbi yn gyflym ac yn bwysicach fyth yn ddiogel gyda llai o risg o gael anaf eto. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddychwelyd i chwaraeon dylech drafod eich anaf gyda Ffisiotherapydd. Gallwch gysylltu â gwasanaeth Ffisiotherapi'r GIG ar 01792 487453.
Dilynwch bob un o'r camau isod yn eu trefn, peidiwch â symud ymlaen nes y gallwch reoli'r holl dasgau yn y cam hwnnw heb boen na chwyddo am 24 awr wedi hynny. Byddwch yn cwblhau rhai camau yn gyflymach nag eraill, mae hyn yn normal.
CAM 1 – DI-BOEN |
|
symudiad di-boen llawn yn y cymal / cyhyr anafedig |
Dim poen na chwydd ar ôl gweithgareddau dyddiol arferol (e.e. gwisgo, cerdded, grisiau ac ati) |
CAM 2 – SWYDDOGAETH SYLFAENOL |
|
Anaf i'r aelod isaf |
Anaf i'r aelod uchaf |
Cydbwyso ar 1 goes am 20 eiliad |
1 ymarfer tynnu i fyny ystod lawn |
Neidiwch ar 1 goes 10 gwaith |
1 dip pwysau corff ystod lawn |
CAM 3 – FFITRWYDD SYLFAENOL |
Dylai chwaraewyr cefn allu loncian 5km heb boen Dylai chwaraewyr blaen allu loncian 3km yn ddi-boen |
Rhedeg cwblhau'r ddau ymarfer : (1) 20m cerdded, gorwedd ar eich blaen, rhedeg 20m, gorwedd ar eich cefn, 20m sbrint. Gallu ailadrodd y dril hwn ar gyflymder llawn o leiaf 10 gwaith er enghraifft: cerdded o'r llinell bêl farw i'r llinell gôl, i lawr ac i fyny, rhedeg i linell 22m, i lawr ac i fyny, sbrintio i linell 10m. Gorffwyswch ac yna ailadroddwch
(2) Dylai chwaraewyr allu cwblhau'r prawf gwennol / Broncho 1200m |
CAM 3 – FFITRWYDD SYLFAENOL parhad |
Nerth yn ôl i isafswm o 75% o'ch codi pwysau cyn-anaf ar gyfer sgwatiau, marw-godi, gwasg ysgwydd, gwasg fainc e.e. pe baech yn gallu marw-godi 160kg o'r blaen, dylech fod yn ôl i 120kg o leiaf |
Ystwythder a Hyder Cwblhewch 5 ymarfer byrfraich (press-ups) gan ddisgyn o'r pengliniau |
CAM 4 – YSTWYTHDER A HYFFORDDIANT DIM CYSYLLTIAD |
Cwblhewch sesiwn hyfforddi ddigyswllt lawn, trafodwch hyn gyda'ch hyfforddwr. Ceisiwch osgoi taclo, cael eich taclo, sgrymiau ymladd, ymosodiadau ymladd a ryciau ymladd. Gallwch geisio defnyddio bagiau offer, rhedeg, newid cyfeiriad, gorchuddio pêl rydd, pas a llinellau |
Nerth Yn ôl i isafswm o 85% o'ch codi pwysau cyn-anaf ar gyfer sgwatiau, marw-godi, gwasg ysgwydd, gwasg fainc e.e. pe baech yn gallu marw-godi 160kg o'r blaen, dylech fod yn ôl i 135kg o leiaf |
Ystwythder a hyder – cwblhewch bob un o’r 3 (1) 1 ymarfer byrfraich yn disgyn o sefyll (2) Prawf cydbwysedd seren yn safle'r ymarfer byrfraich (Gweler y fideo) (3) Prawf triphlyg ar y ddwy ochr – dylai fod llai na 5% o wahaniaeth e.e. os gallwch orchuddio 500cm ar un goes, dylech orchuddio o leiaf 475cm ar y goes arall |
CAM 5 - HYFFORDDIANT CYSWLLT |
Hyfforddiant Rygbi cwblhau 2 sesiwn hyfforddi cyswllt llawn |
Rhedeg ailadroddwch ddril (1) o gam 3 ar gyflymder llawn o leiaf 20 gwaith gorffwys dim mwy na 2 funud ar ôl 10 ailadrodd os oes angen |
CAM 6 – DYCHWELYD I RYGBI |
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r holl gamau a phrofion uchod dylech fod yn barod i chwarae gemau |
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.