Neidio i'r prif gynnwy
Dr Maria Yanez Lopez
Dr. Maria Yanez Lopez

Maria.YanezLopez@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Rwy'n wyddonydd clinigol MRI ac yn ddirprwy bennaeth y grŵp Ffiseg MRI.

Mae gennyf PhD mewn MRI moleciwlaidd o Brifysgol Nottingham ac rwyf wedi gweithio fel cymrawd ymchwil yng Ngholeg Imperial Llundain a Choleg y Brenin Llundain.

Yn 2021 ymunais â’r GIG yn gweithio yn Ymddiriedolaeth Sefydledig Guy’s a St Thomas, lle cyflwynais fy nghais i gofrestru gyda’r HCPC ac yna yn 2022 ymunais â’r Grŵp Ffiseg MR ym Mae Abertawe.

Mae fy niddordeb ymchwil yn ymwneud â datblygu MRI magnetig moleciwlaidd i ymchwilio i fiocemeg anhwylderau niwrolegol a seiciatrig, gyda'r bwriad o nodweddu dyfodiad afiechyd, gwella diagnosis cynnar ac asesu effeithiolrwydd therapi.

Fel academydd clinigol, rwy’n frwd dros ddod â datblygiadau ymchwil i phractis clinigol, ac ymgysylltu â gwahanol weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau academia, diwydiant ac ysbytai, er budd y gwasanaeth clinigol.

Rwy’n aelod o Grŵp Diddordebau Arbennig MR y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg Meddygaeth (IPEM) ac rwy’n ymwneud fwy â mentrau ledled y DU i hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac arferion ym maes MRI.

Rwy'n gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac yn Arbenigwr Diogelwch MR (MRSE) ardystiedig IPEM.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.