Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ansawdd, profi derbyn, comisiynu a chynllunio safle

Mae sicrhau ansawdd mewn Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) yn broses barhaus systematig, a ddefnyddir i benderfynu a yw offer MRI yn bodloni safonau ansawdd.

Dylid asesu sganwyr MRI yn rheolaidd, i sicrhau bod delweddau o ansawdd uchel yn gweithio'n iawn er budd cleifion.

Rydym yn cynnal profion rheoli ansawdd fel rhan o raglen SA cyffredinol i gydymffurfio â chanllawiau MRI cenedlaethol, gan gynnwys canllawiau'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ac argymhellion Adroddiad 112 y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (SFfPM / IPEM).

Rydym hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer dulliau Sicrwydd Ansawdd mwy datblygedig ar gyfer cymwysiadau clinigol penodol ee ar gyfer y rhaglen sgrinio'r fron risg uchel a chymwysiadau radiotherapi (asesiad o ystumiad geometrig mewn tri dimensiwn dros gyfaint mawr).

Rydym yn cynnal profion derbyn ar offer MRI newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Mae hyn yn cynnwys sicrwydd ansawdd, cyfrifiadau sŵn acwstig ac archwiliad diogelwch.

Rydym yn cynorthwyo gyda chynllunio safle a chaffael ar gyfer unedau delweddu newydd neu uwchraddio.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.