Cefnogwch Ganolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt
Mae ein cronfa elusennol hollt yn agored i roddion ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau, p’un ai’n rhai mawr neu rai bach. Mae'r holl arian yn mynd tuag at wella gofal cleifion a phrofiad ein cleifion yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt.
Gellir rhoi rhoddion drwy siec allan i 'Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe' a gellir postio sieciau i:
Canolfan Cymru ar gyfer Gwefus a Thaflod Hollt,
Llawr 2B CAB,
Ysbyty Treforys,
Abertawe,
SA6 6NL.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.