Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth bellach i rieni a gofalwyr

Isod fe welwch rai dolenni i adnoddau a gwefannau defnyddiol.

Ar y dudalen plant a phobl ifanc, bydd dolenni i rai gwefannau ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw, yn ogystal â'u teuluoedd.

Ar y dudalen hon, efallai y byddwch chi'n dod o hyd i ddolenni sy'n eich cefnogi chi, neu'n darparu gwybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi'ch plentyn.

 

Lles emosiynol ac iechyd meddwl

Ewch i wefan Tidy Minds am gyngor a chefnogaeth i bobl ifanc, help i ymdopi â materion cyffredin a chefnogaeth i rieni a gofalwyr.

Ewch i wefan SilverCloud, rhaglen hyblyg ar-lein sy'n eich helpu i ddysgu ymdopi'n well â hwyliau isel a/neu bryder.

 

Plant ag anableddau dysgu

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr adnodd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i Deuluoedd Unwaith i Gymru, sy’n helpu teuluoedd i gefnogi anwyliaid ag anabledd dysgu.

 

Taflenni seicoleg plant

Dilynwch y ddolen hon i'r daflen 'Helpu plant a phobl ifanc i ymdopi pan fyddant yn teimlo'n bryderus' - sydd ar ffurf Word.