14eg Awst 2024
At: Aelodau Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe
Annwyl Aelodau,
Parthed: Eich llythyr dyddiedig 8fed Awst 2024
Diolch i chi i gyd am gymryd yr amser i ysgrifennu ataf, ar ran Grŵp Cymorth Mamolaeth Bae Abertawe.
Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro. Mae'r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol wedi cymryd gormod o amser i gychwyn.
Gobeithiaf y bydd y llythyr hwn yn eich sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gwbl ymrwymedig i gefnogi’r Tîm Adolygu wrth iddo wneud iawn am dir coll, ac i gynnwys teuluoedd a grwpiau cymorth cysylltiedig yn llawn. Rwyf wedi trafod hyn gyda Chadeirydd Dros Dro y Panel Trosolwg; mae hi'n gwneud hyn yn flaenoriaeth a bydd LLAIS hefyd yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu cefnogaeth.
Mae pob un ohonom eisiau dysgu popeth a allwn o’r broses adolygu, i sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar y claf. Clywaf eich pryderon am yr Adolygiad, ond, o’m safbwynt i, byddai’r oedi a fyddai’n deillio o gau’r adolygiad presennol a dechrau eto yn golygu bod hyd yn oed mwy o amser yn mynd heibio cyn inni gael yr atebion y mae pob un ohonom eu heisiau.
Fodd bynnag, cytunaf fod yn rhaid i deuluoedd fod wrth wraidd yr Adolygiad, a bydd y Bwrdd Iechyd yn sicrhau bod cymorth ar gael i helpu pobl i ddod ymlaen.
Rydym yn deall y gall rhannu profiadau gymryd ei effaith, felly byddwn yn sicrhau bod cymorth allanol, annibynnol ar gael i’r teuluoedd hynny a fyddai’n ei chael yn ddefnyddiol. Yr wythnos nesaf, bydd y Tîm Adolygu yn ysgrifennu at deuluoedd a bydd y llythyrau'n cynnwys manylion am y cymorth a gynigir a sut i gael gafael arno. Bydd y llythyrau'n cael eu hanfon fesul cam a bydd y Tîm Adolygu'n defnyddio adborth i helpu i lunio cyfathrebiadau yn y dyfodol.
Bydd cyfle hefyd i deuluoedd atgyfeirio eu hunain os ydynt wedi cael profiadau y maent am eu rhannu, ac am iddynt gael eu cynnwys yn yr Adolygiad Annibynnol, hyd yn oed os ydynt y tu allan i gwmpas y cofnodion a ddetholwyd o dan gylch gorchwyl cyhoeddedig yr Adolygiad. Bydd trefniadau i hunangyfeirio yn cael eu cyhoeddi ar gyfer teuluoedd ar wefan yr Adolygiad yn ystod yr wythnos yn dechrau 9fed Medi 2024.
Mae’r Tîm Adolygu wedi lansio ei wefan newydd, i ddarparu storfa ganolog o’r holl wybodaeth am yr Adolygiad a chyfnodau’r gwaith – ac mae hon i’w gweld yma. Rwy'n gobeithio y bydd y wefan yn ddefnyddiol i chi a bydd adborth yn cael ei groesawu'n fawr. Bydd sefydlu’r Grŵp Teuluoedd a Rhanddeiliaid yn ffordd arall y gallwch chi i gyd gyfrannu a rhannu eich profiadau.
I gloi, a gaf i ymddiheuro eto am yr oedi a rhoi sicrwydd i chi o benderfyniad y Bwrdd Iechyd i gefnogi'r Tîm Adolygu wrth i'w waith fynd rhagddo. Mae gennym ni i gyd ddiddordeb mewn gadael i'r Adolygiad redeg ei gwrs a rhoi'r atebion i ni. Gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni i gwblhau’r Adolygiad hyd at ei derfyn a diolch ichi eto am roi o’ch amser i ysgrifennu.
Yr eiddoch yn gywir,
Jan Williams
Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.