Datganiad gan Mark Hackett, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
“Yn anffodus, mae’n amlwg iawn o’r adroddiad annibynnol hwn y bu materion difrifol yn ymwneud â darparu gofal a’r diwylliant arweinyddiaeth o fewn ein gwasanaeth Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol Plant ers cryn amser.
“Mae hyn yn hynod siomedig ac yn gwbl annerbyniol. Ar ran y bwrdd iechyd, ymddiheuraf yn ddiffuant i'r teuluoedd yr effeithir arnynt.
“Rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd yn chwarae rhan hynod bwysig yng ngofal plant â phroblemau iechyd parhaus. Felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu hystyried yn rhan o dîm y GIG sy'n darparu'r gofal hwn.
“Yn anffodus, mae’r adroddiad yn dangos nad profiad cyfran sylweddol o rieni fu hwn.
“Sicrhewch y bydd hyn yn newid. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y bydd y gwasanaeth yn llawer mwy cynhwysol yn y dyfodol, ac yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn unigol.
“Ein blaenoriaethau nawr yw atgyweirio perthnasoedd â theuluoedd a gweithio ochr yn ochr â nhw i wella ein gwasanaethau.
“Mae’n braf gweld, ers i ni gomisiynu’r adroddiad hwn gyda rhieni, eu bod eisoes yn adrodd am welliannau mewn gwasanaethau, ac, yn bwysig iawn, eu perthnasoedd â staff.
“Mae'n galonogol bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod teuluoedd yn parchu llawer o'r staff hyn eisoes, a gallwn yn sicr adeiladu ar hynny.
“Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd, a byddwn yn gwahodd yr adolygwyr allanol yn ôl ymhen 12 mis i wirio cynnydd.
“Fel camau cyntaf pwysig i adeiladu gwell gwasanaeth, mae arweinyddiaeth y gwasanaeth bellach wedi newid, ac rydym wedi sicrhau bod partneriaethau cydweithredol rhwng staff a theuluoedd yn cael eu hymgorffori yn strwythur gwasanaeth y dyfodol.
“Mae ein staff sy’n darparu gofal ymarferol yn awyddus i weithio’n agos gyda rhieni, ac maent eisoes wedi nodi nifer o welliannau gwasanaeth arloesol a thosturiol i’w hystyried.
“Byddwn yn llunio Cytundeb Rhiant cynhwysfawr newydd, sy'n nodi rolau a disgwyliadau'r bwrdd iechyd a'r teuluoedd, a bydd hyn yn cael ei wneud gyda mewnbwn rhieni ac mewn partneriaeth â nhw.
“Rydym hefyd wedi cytuno ar nifer o gamau pellach, a amlinellir isod.
“Yn olaf, hoffwn fynegi fy niolch i’r teuluoedd am yr amser a’r ymdrech a neilltuwyd ganddynt i ymgysylltu â’r tîm adolygu annibynnol. Rydw i'n gwybod bod hyn ddim wedi bod yn profiad hawdd i nhw. Fodd bynnag, mae eu mewnwelediadau, eu safbwyntiau a'u hadborth yn amhrisiadwy wrth symud ymlaen.
“Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni nawr ar ddechrau cyfnod newydd i'n Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol i Blant. Gan weithio ochr yn ochr â theuluoedd, ein nod yw darparu'r gofal gorau posibl i'r bobl ifanc bregus hyn yn y blynyddoedd i ddod. "
Mae ein cynllun gweithredu i wella Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol Plant yn cynnwys:
Yn anffodus nid oes fersiwn Gymraeg o'r dogfennau isod ar gael eto
Ewch yma am bapur rhagarweiniol y Bwrdd (Tachwedd 2021) am yr adroddiad
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.