Mae dwy o'n nyrsys wedi rhoi cyfrif uniongyrchol o'r hyn sy'n digwydd pan fydd y ffliw yn taro ward ysbyty.
Mae'r Prif Nyrs Iau Charlene Evans a'r Rheolwr Ward Carys Walters o'r Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Morriston i'w gweld yn ein fideo ddiweddaraf yn hyrwyddo ymgyrch ffliw eleni.
Dyma ychydig o ddarnau testun o'r fideo:
"Gall unrhyw un ddod i lawr â'r ffliw. Nid oes ganddo rwystrau. Gall effeithio ar unrhyw un."
"Yn aml iawn bydd claf yn dod mewn gyda'r gwaethygu o'u asthma neu CPD, neu haint ar y frest. Pan mae’r meddyg yn dod i weld nhw effallai eu bod yn meddwl bod ‘na possibilrwydd o ffliw. Os oes angen i ni ynysu'r cleifion hynny gall fod yn anodd os nad oes gennym y ciwbiclau neu'r ystafelloedd ochr yn eu lle… Yn y cyfamser mae'n rhaid i ni gau'r bae i lawr nes bod canlyniadau'r ffliw yn ôl. Os dônt yn ôl yn bositif yna yn y pen draw mae'n rhaid i ni trin yr holl gleifion bregus yn y bae hwnnw gyda Tamiflu. Mae'n cymryd llawer o amser oherwydd os oes gennym ni gleifion sydd angen ynysu ac sy'n â risg uchel o ffliw yna mae'n rhaid i ni gymryd rhagofalon ychwanegol. Mae'n firws yn yr awyr felly masgiau (mae'n rhaid gwisgo nhw). Mae'n costio. Mae ganddo lawer o oblygiadau."
"Mae'n cael effaith enfawr ar y gofal rydyn ni'n ei ddarparu. Ac mae'n atal cleifion rhag cael eu rhyddhau adref."
"...Sgil-effaith i'r ysbyty cyfan"
Gwyliwch y fideo am y cyfweliad cyfan. (Ychydig llai na thri munud): https://www.youtube.com/watch?v=B5eQk-sZ8gE&t=62s
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.