Neidio i'r prif gynnwy

Mygydau wyneb a chyfyngiadau ymweld ar draws ein hysbytai wrth i ffliw barhau i gael effaith sylweddol

Gyda ffliw yn parhau i achosi heriau sylweddol yn ein hysbytai, rydym yn cryfhau ein hymateb er mwyn amddiffyn cleifion a staff.

O heddiw ymlaen, gofynnir i staff ac ymwelwyr, yn ogystal â chleifion lle bo'n briodol, wisgo mygydau wyneb bob amser.

Gall y mesur hwn leihau'r risg o drosglwyddo firysau anadlol a helpu i leihau'r risg y bydd unrhyw un sy'n cario firws yn ei drosglwyddo i eraill.

Mae mesurau ychwanegol hefyd ar waith, gan gynnwys cyfyngiadau dros dro ar ymweld a phrofi cleifion â symptomau.

Mae’r risg o ddal y ffliw yn uchel wrth i nifer yr achosion gynyddu ledled Cymru. Ym Mae Abertawe yn unig, mae 20 o wardiau â chleifion mewnol â ffliw, gyda 53 o achosion wedi'u cadarnhau a 93 o gysylltiadau wedi'u hamlygu.

Bu cynnydd hefyd mewn absenoldeb staff oherwydd y ffliw, rhywbeth sy’n achosi pwysau gweithredol penodol o ystyried yr adeg o’r flwyddyn.

Er mwyn helpu i liniaru hyn, rydym yn gofyn i'r holl staff, ymwelwyr a, lle bo'n briodol, cleifion, wisgo masgiau wyneb ar draws ein safleoedd.

Bydd masgiau ar gael wrth ddesgiau'r gwirfoddolwyr wrth y mynedfeydd blaen i ysbytai Singleton, Castell-nedd Port Talbot a Threforys.

Yn anffodus, mae nifer yr achosion o ffliw wedi golygu ailgyflwyno ymweliadau â phwrpas ar bob ward dros dro.

Mae hyn yn caniatáu i un ffrind neu berthynas ymweld â chlaf o dan amgylchiadau arbennig. Er enghraifft, ymweld â rhywun sydd yn nyddiau olaf eu bywyd, neu sydd â nam ar y cof, neu sydd angen lefel uchel o gefnogaeth emosiynol.

Mewn geiriau eraill, pan ystyrir bod ymweliad yn hanfodol ar gyfer lles claf agored i niwed. Rhaid cytuno ar hyn ymlaen llaw gyda staff y ward, a chyfyngir ymweliadau i awr y dydd.

Dim ond gyda chaniatâd rheolwr y ward y gellir ymweld â mannau asesu.

Yn anffodus mae ymweld am resymau cymdeithasol mwy cyffredinol wedi ei ohirio am y tro.

Dywedodd Hazel Powell, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion Dros Dro Bae Abertawe: “Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal haint yn cael eu cymryd.

“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydynt yn teimlo’n sâl.

“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o’ch diogelu rhag dal neu ledaenu’r ffliw.

“Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, ond gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd, fel niwmonia, a all fod yn beryglus iawn, yn enwedig os ydych yn glinigol agored i niwed.”

Mae brechiadau ar gael yr wythnos hon ar ddydd Iau 2il Ionawr a dydd Gwener 3ydd Ionawr yng Nghanolfan Siopa Aberafan o 9.30yb-12.30yp a 1.30yp-4.30yp.

Bydd yr Imbiwlans hefyd wedi'i leoli ym Mharc Manwerthu Morfa, Abertawe, ddydd Gwener 3ydd Ionawr, gyda'r un oriau agor â LVC Aberafan.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddyddiadau clinig pellach.

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y ffliw a brechlynnau eraill.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.