Mae miloedd o staff addysg yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi cael profion gwaed yn Ysbyty Maes y Bae dros yr wythnosau diwethaf i ddarganfod a oes ganddynt wrthgyrff sy'n tystio iddynt gael COVID-19.
Mae tua 4,500 o staff ysgolion, o ofalwyr i benaethiaid, wedi cael y profion gwrthgyrff ar safle Fabian Way. Roeddent i gyd o'r ysgolion hyb lleol a arhosodd ar agor i blant gweithwyr allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae 6,500 o weithwyr gofal iechyd hefyd wedi derbyn profion gwrthgyrff, ond gwnaed y rhain yn bennaf yn ein prif ysbytai - ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae'r profion gwaed gwrthgyrff yn dangos a yw rhywun wedi cael haint COVID-19 yn y gorffennol, yn hytrach nag yn dangos a yw'r haint arnynt nawr. Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer staff addysg a gofal iechyd y mae profion gwrthgyrff ar gael. Nid ydynt ar gael i aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae'r prawf yn edrych am wrthgyrff yn y gwaed a fyddai wedi'u cynhyrchu gan system imiwnedd yr unigolyn pan oedd yn ymladd y feirws. Mae tystiolaeth o wrthgyrff yn dangos iddynt gael y salwch yn y gorffennol.
Nid yw'r math arall o brofion, sef profion antigen, yn cael eu gwneud trwy brawf gwaed, ond yn hytrach gan gymryd swabiau o'r gwddf. Mae'r rhain yn gwirio a oes rhywun wedi'i heintio â'r feirws ar hyn o bryd . Mae profion antigen ar gael i unrhyw un sy'n dangos symptomau o COVID-19 ac maen nhw ar gael yn ein canolfannau profi drwy ffenest y car ym Margam ac yn Stadiwm Liberty (trwy apwyntiad yn unig) neu drwy becyn profi cartref. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am fanylion profi lleol
Dechreuodd profion gwrthgyrff ar gyfer staff addysg ganol mis Mehefin ac mae mwyafrif helaeth staff yr ysgolion hyb bellach wedi'u profi.
Bydd Ysbyty Maes y Bae nawr yn parhau i gael ei ddefnyddio am ychydig yn hirach i brofi rhai staff gofal iechyd ychwanegol nad ydyn nhw wedi'u lleoli yn y prif ysbytai.
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd BIP Bae Abertawe, Keith Reid:
“Nid yw cael prawf gwrthgyrff positif o reidrwydd yn golygu na all rhywun ddal COVID-19 eto, felly mae'n bwysig cadw at y mesurau hylendid a phellter cymdeithasol priodol.
“Ond bydd y profion hyn yn helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am ymateb imiwnedd y corff i’r feirws.”
Ychwanegodd Dr Reid:
“Rwy’n falch iawn gydag ymateb cyflym ein timau wrth drefnu'r profion gwrthgyrff hyn, gan brofi 12,000 o bobl o fewn wythnosau yn Ysbyty Maes y Bae a’n prif ysbytai.
“Roedd y gwahanol grwpiau o staff a ddaeth ynghyd i wneud hyn yn bosib yn cynnwys staff labordai, myfyrwyr meddygol, myfyrwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwirfoddolwyr, staff gweinyddol y Bwrdd Iechyd, a rheolwyr a staff addysg y Bwrdd.
“Roedd yr agwedd gadarnhaol hon yn hanfodol er mwyn sicrhau y gallen ni brofi cynifer o staff addysg o fewn cyfnod mor fyr yn Ysbyty Maes y Bae.
“Fel sydd wedi bod yn wir drwy'r pandemig hwn, bu'n rhyfeddol gweld parodrwydd pobl i fynd yr ail filltir er mwyn helpu eraill.”
Bydd canlyniadau'r profion gwrthgyrff yn rhoi data i wyddonwyr i'w helpu i ddeall yn well sut mae'r feirws yn lledaenu. Dewiswyd profi gweithwyr iechyd a staff addysg o ysgolion hyb a oedd ar agor yn ystod y cyfyngiadau, am iddynt fod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r feirws o gymharu â grwpiau eraill o bobl.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.