Rydym yn gwybod bod arosiadau yn yr Adran Achosion Brys (A&E) yn rhwystredig.
Ond nid yw cam-drin unrhyw un o'n staff o ganlyniad yn dderbyniol.
Mae staff ein derbynfa yn benodol wedi profi cynnydd mewn cam-drin geiriol, sy'n peri gofid mawr. Rhaid i hyn ddod i ben.
Ni fydd gweiddi arnyn nhw yn golygu eich bod chi na'ch anwylyn yn cael eu gweld yn gyflymach.
Mae EDs (A&E) ledled Cymru yn brysur yr haf hwn ac nid yw Ysbyty Treforys yn gwahanol.
Rydym i gyd yn gweld cynnydd cyffredinol yn nifer y cleifion, llawer ohonynt yn sâl ac yn dod i mewn yn ambiwlans.
Rhaid i ni flaenoriaethu'r cleifion sâl ac anafedig iawn hyn, felly mae'n anffodus ond yn anochel, os ydych chi neu rywun annwyl yn ceisio triniaeth ar gyfer mater llai difrifol, efallai y bydd cryn amser cyn i'n staff gyrraedd atoch chi.
Weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi neu rywun annwyl aros yn ED i gael eich gweld gan rywun o dîm arbenigedd fel llawfeddyg. Unwaith eto, gall hyn fod yn rhwystredig ond nid oes gan staff ED unrhyw reolaeth dros ba mor hir y bydd rhaid i chi aros.
O'n rhan ni, rydyn ni'n edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu ar gyfer y rhai mae angen eu derbyn i'r ysbyty ac i leihau derbyniadau diangen.
Gallwch chi ein helpu ni trwy ddod i ED dim ond os yw'n argyfwng. Mae dewisiadau amgen da i ED yn cynnwys:
Felly, helpwch ni i'ch helpu chi. Byddwch yn garedig a gadewch i ni cael gwared â chamdrinaeth
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.