Rydym yn parhau i sicrhau bod profion clinigol i gleifion blaenoriaeth uchel ar gael tra bod y cwmni fferyllol Roche yn parhau i geisio datrys problemau gyda chyflenwad cemegion prawf pwysig.
Nid yw'r broblem, sydd hefyd wedi effeithio ar y GIG ehangach yng Nghymru a Lloegr ac sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn effeithio ar brofion ar gyfer Covid-19.
Gellir sicrhau cleifion Bae Abertawe y mae eu triniaeth yn dibynnu ar y gwaed diweddaraf a phrofion eraill y byddant yn cael eu blaenoriaethu.
Gofynnir i gleifion allanol sydd i gael profion gwaed barhau i ddilyn y tri cham hyn am y tro:
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Chris White: “ Am yr wythnos ddiwethaf mae prinder’r adweithyddion cemegol allweddol sydd eu hangen ar gyfer dadansoddi profion biocemegol, gan gynnwys rhai profion gwaed, a samplu meinwe wedi effeithio ar ein labordai .
“Amharwyd ar gyflenwadau oherwydd materion gweithredol yng Nghanolfan Dosbarthu Genedlaethol newydd Roche.
“Gwneir y peiriannau yn ein labordai gan Roche a dim ond gyda chynhyrchion Roche y byddant yn gweithio felly nid ydym wedi gallu troi at gyflenwr amgen.
“Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd cyfagos a Roche i sicrhau'r cynhyrchion sydd eu hangen fwyaf ar frys ac i ailsefydlu danfoniadau rheolaidd.
“Rydym yn croesawu datganiad heddiw gan Geoff Twist, Rheolwr Gyfarwyddwr Roche Diagnostics UK & Ireland, lle mae’n rhoi sicrwydd bod y ganolfan ddosbarthu newydd bellach yn gwbl weithredol a dylai eu cynllun adfer eu galluogi i ailafael yn lefelau gwasanaeth mwy arferol yn fuan."
Ychwanegodd Mr White: “Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r cyhoedd a chydweithwyr mewn meddygfeydd ac ysbytai am eu hamynedd a’u parodrwydd i weithio gyda ni yn ystod yr amser heriol hwn.
“Byddwn yn cyhoeddi diweddariad pellach cyn gynted ag y byddwn yn gwybod mwy.”
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.