Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad mamolaeth a newyddenedigol annibynnol Bae Abertawe: diweddariad gan Margaret Bowron KC, 12/06/2024

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae’n bleser gennyf heddiw gyhoeddi cyhoeddiad ffurfiol y Cylch Gorchwyl sydd wedi’i ddiweddaru yng ngoleuni safbwyntiau rhieni a staff, a gasglwyd yn ystod y cyfnod gwrando. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu at y broses bwysig hon. Gellir cyrchu'r Cylch Gorchwyl terfynol yma. Wrth gwblhau’r Cylch Gorchwyl, rwyf wedi gweithio’n agos ag arbenigwyr ar y Panel Goruchwylio, a’r arbenigwyr mewn adolygiadau clinigol, ymgysylltu â chleifion a staff a llywodraethu a fydd bellach yn ymgymryd â’r meysydd gwaith yn yr Adolygiad. Rwyf am ailadrodd bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau’n gwbl annibynnol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“BIPBA”). Roedd y cyfnod gwrando yn ddefnyddiol i gael mewnbwn gan deulu a staff ar ystod amrywiol o faterion gan gynnwys cynnwys digwyddiadau y tu hwnt i’r rhai a ddisgrifir yn fanwl yn y Cylch Gorchwyl, yr angen i gasglu profiad da yn ogystal â phrofiad gwael y claf, y meini prawf diffiniol ac amserlenni achosion sy'n dod o fewn yr Adolygiad, a'r Ddyletswydd Gonestrwydd.

Bydd gwaith pwysig yr Adolygiad yn dechrau yn awr. Yn y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf bydd llawer o gyfleoedd i gleifion adrodd eu straeon ac i hunangyfeirio at yr Adolygiad. Mae tudalen lanio bwrpasol yn cael ei sefydlu y gellir ei defnyddio fel ffordd o gyfeirio at yr Adolygiad. Bydd manylion am hyn yn dilyn. Niche Consulting sy'n cynnal hyn, sydd eto'n gwbl annibynnol ar BIPBA. 

Tra bo'r Adolygiad yn mynd yn ei flaen, os byddech yn croesawu unrhyw gefnogaeth, mae Llais (y corff eirioli cleifion annibynnol) ar gael i gynnig hyn a gellir cysylltu ag ef ar:

E: maternityexperience@llaiscymru.org

Ffôn: 01639 683490

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.